Pwllheli: Dau yn yr ysbyty ac un arall wedi ei arestio
Mae dau ddyn yn yr ysbyty ac un wedi ei arestio ar ôl yr hyn mae’r heddlu yn ei alw’n “aflonyddwch” ym Mhwllheli.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y digwyddiad yn cynnwys tri dyn, a oedd yn ôl adroddiadau yn rhan o ffrae y tu allan i adeilad preswyl Yr Eifl ar Ffordd Mela.
Cafodd dau ddyn anafiadau yn ystod y digwyddiad hwn ac fe'u cludwyd i'r ysbyty wedi hynny.
Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n credu bod eu hanafiadau yn peryglu eu bywydau.
Cafodd y dyn arall ei arestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud ag anafu.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Davies: “Mae swyddogion yn parhau yn y fan a'r lle wrth i'n hymchwiliad i'r digwyddiad hwn barhau.
“Rydym am sicrhau'r gymuned leol nad oes unrhyw fygythiad parhaus i'r cyhoedd, ac mae'r sawl sydd o dan amheuaeth yn y ddalfa ar hyn o bryd.
“Os wnaethoch chi weld unrhyw beth, neu os oes gennych wybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau, cysylltwch â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu cyfeirnod y digwyddiad C123655,” meddai.