S4C i ddarlledu fersiwn Gymraeg newydd o'r gyfres The Assembly
Fe fydd S4C yn darlledu fersiwn Gymraeg newydd sbon o’r gyfres The A-Talks, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel The Assembly.
Yn y gyfres, mae grŵp o 30 o bobl awtistig, niwro-wahanol a/neu sydd ag anableddau dysgu yn holi person adnabyddus am unrhyw beth heb unrhyw gyfyngiad.
Dywedodd S4C y bydd pedair pennod yn y gyfres newydd 'Y Cyfweliad', â phob un "yn rhoi person adnabyddus o dan chwyddwydr craff."
Bydd y penodau yn cael eu darlledu'n wythnosol gyda'r bennod gyntaf ar noswyl Nadolig 2025.
Fe fydd union ddyddiadau'r penodau eraill yn cael eu cadarnhau maes o law, meddai S4C.
Mae fformat y sioe yn addasiad o'r gyfres Ffrengig Les Rencontres du Papotin, a gafodd ei lansio yn 2022.
Bellach mae’r fformat wedi’i ddarlledu mewn 13 gwlad gan gynnwys Awstralia, Sbaen, Brasil, Yr Iseldiroedd, Singapore a Norwy, gydag wyth gwlad arall yn cynnwys Cymru yn paratoi i ddarlledu eu fersiwn nhw.
Ym mis Ebrill 2024 darlledwyd y fersiwn gyntaf yn y Deyrnas Unedig, lle cafodd yr actor Michael Sheen ei holi yn The Assembly.
Dywedodd Siwan Haf, cynhyrchydd Y Cyfweliad ar ran Cwmni Da, a fydd yn cynhyrchu'r gyfres: "Mae cael y cyfle i gynhyrchu’r fersiwn Gymraeg o'r fformat arbennig hon yn fraint.
“Gallai ddim disgwyl i ddechrau ffilmio efo'r criw o holwyr niwro-wahanol, fydd yn cael y rhwydd hynt i holi beth bynnag yr hoffent i'r gwestai, bob wythnos.
"Dwi'n edrych ymlaen fwyaf i glywed pa gwestiynau unigryw maen nhw'n ysu i holi - a'r rhai y bydd y gwylwyr adref yn siŵr o werthfawrogi clywed yr atebion hefyd!
"Dwi’n teimlo fod gennym wledd o'n blaenau."