Cwpan Rygbi'r Byd: Alex Callender yng ngharfan Cymru er gwaethaf anaf

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Alex Callender

Mae cyd-gapten Cymru Alex Callender wedi ei chynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd er gwaethaf iddi gael anaf 10 niwrnod yn ôl.

Bu'n rhaid iddi adael y cae wedi ychydig funudau yn unig yn erbyn Awstralia ar 1 Awst, cyn dychwelyd i ochr y cae gyda chymorth ffyn baglau.

Mae hi wedi ei chynnwys yn y garfan gyda'r 29 o chwaraewyr eraill oedd ar y daith i Awstralia.

Mae'r prif hyfforddwr Sean Lynn hefyd wedi cynnwys Kerin Lake a chapten dan 20 Cymru, Branwen Metcalfe.

Callender a Kate Williams fydd cyd-gapteiniaid ar gyfer Cwpan y Byd a fydd yn cael ei gynnal yn Lloegr ar ddiwedd y mis ac ym mis Medi.

Fe fydd Cymru yn wynebu Canada, yr Alban a Fiji gyda'r timoedd yn y ddau safle uchaf yn cymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf.

Eleni bydd dau bâr o chwiorydd yn y garfan, Branwen a Nel Metcalfe a Gwenllian ac Alaw Pyrs - y pedair o Sir Conwy.

Mae llawer o brofiad yn y garfan hefyd, wrth i Hannah Jones, Jasmine Joyce-Butchers, Lleucu George, Kelsey Jones, Keira Bevan a Gwenllian Pyrs chwarae yng Nghwpan y Byd am y trydydd tro.

Nid yw Natalia John, Hannah Bluck, Jenny Hesketh, Sian Jones na Robyn Wilkins yn y garfan oherwydd anafiadau.

"Mae'r garfan sydd wedi ei dewis yn gymysgedd o brofiad a thalent ifanc cyffrous sydd wedi profi eu bod yn haeddu'r cyfle i chwarae ar y llwyfan mwyaf, sef Cwpan y Byd," meddai Sean Lynn.

"Fel prif hyfforddwyr, roedd rhai dewisiadau anodd wrth ddewis ond dyma'r garfan gryfaf y gallem fod wedi'i dewis ac rydym yn edrych ymlaen at yr her sydd o'n blaenau.

"I chwaraewyr, hyfforddwyr a staff, mae hyn yn addo bod yn uchafbwynt ein holl yrfaoedd ac un yr ydym yn ei mwynhau. Rydym yn gwybod ein bod yn cynrychioli cenedl rygbi falch ac rydym yn benderfynol o wneud y genedl yn falch."

Carfan Cymru:

Blaenwyr

Katherine Baverstock, Maisie Davies, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Jenni Scoble, Sisilia Tuipulotu, Kelsey Jones, Carys Phillips, Molly Reardon, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Abbie Fleming, Bryonie King, Bethan Lewis, Alaw Pyrs, Tilly Vucaj, Kate Williams, Branwen Metcalfe

Olwyr

Keira Bevan, Meg Davies, Seren Lockwood, Lleucu George, Kayleigh Powell, Carys Cox, Hannah Dallavalle, Kerin Lake, Courtney Keight, Jasmine Joyce-Butchers, Nel Metcalfe, Lisa Neumann, Catherine Richards


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.