Dom a Lloyd: Gig rithiol gyntaf yn y Gymraeg

Dom a Lloyd: Gig rithiol gyntaf yn y Gymraeg

Mae’r ddeuawd Dom a Lloyd wedi dweud y gallai gigiau ar-lein wneud y sin gerddoriaeth yn “fwy hygyrch” wedi iddyn nhw berfformio yn eu gig rithiol gyntaf. 

Ddydd Sadwrn, perfformiodd y rapwyr o flaen cynulleidfa rithiol – y tro cyntaf i gig o’r fath ddigwydd drwy’r Gymraeg. 

Roedden nhw wedi defnyddio technoleg arbennig oedd yn caniatáu iddyn nhw berfformio o flaen torf o bobl mewn gofod rhithwir (‘virtual space’). 

Ac er bod rhai yn pryderu am ddylanwad cynyddol technoleg ym myd y celfyddydau, mae’r ddeuawd yn credu y gallai gigiau o’r fath wella hygyrchedd yn y diwydiant. 

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Lloyd Lewis: “Sai'n credu bod e'n fygythiad i gigs go iawn oherwydd gigs go iawn, chi methu substitiwtio yr egni 'na chi'n cael os chi 'na yn y cnawd fel petai. 

“Ond hefyd mae hyn jyst yn rhywbeth gwbl newydd sbon. 

“Mae bendant lle i gigiau fel hyn a mae'n 'neud e mwy hygyrch i pobl i cael dod i'r gigs, nhw'n gallu e 'neud e o'u hystafell gwely felly mae hwnna'n rhywbeth sydd yn rili, rili diddorol am yr holl beth.” 

Image
Dom a Lloyd
Dom a Lloyd yn perfformio'n rhithiol

'Pwerus'

Roedd modd i unrhyw un dros 13 oed yn y DU fynychu drwy ddilyn dolen neu gôd QR gan roi’r cyfle iddynt greu cymeriad rhithiol i’w hunain ac ymuno â’r gynulleidfa. 

Roedd Dom a Lloyd hefyd yn cael gweld a chlywed eu cynulleidfa gan olygu bod modd iddynt gyfathrebu â nhw. 

Mae’r ddeuawd wedi disgrifio’r cyfle i greu hanes gyda’r perfformiad fel “braint.” 

Dywedodd Dom James ei fod yn cydnabod y gallai’r dechnoleg greu heriau pe bai’n cael ei chamddefnyddio. 

Image
Llwyfan rhithiol
Llwyfan rhithiol

Ond mae’n credu y byddai gigiau o'r fath yn “ychwanegu” at y diwydiant. 

“Fi'n teimlo fel lle mae'n mynd efo technoleg nawr pethau fel hwn, virtual reality, AI a stwff fel 'na, mae jyst yn mynd i adio i'r industry,” meddai. 

“Fi yn teimlo fel mae 'na cwpwl o cwestiynau sydd dal fan 'na: 'Ydy e'n helpu neu ydy e'n 'neud e'n gwaethaf?'

“Ond fi'n meddwl os ni'n defnyddio fe'n gywir mae gallu bod yn pwerus iawn.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.