Dau geffyl wedi marw a dau yrrwr yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad
Mae dau geffyl wedi marw a dau yrrwr wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad ar ffordd yr A465 i gyfeiriad Brynmawr tua 10.30 nos Sul.
Roedd dau gar yn rhan o’r gwrthdrawiad. Fe gafodd y gyrwyr eu cludo i’r ysbyty er mwyn sicrhau eu bod nhw’n iawn, meddai’r heddlu.
Aeth swyddogion o Heddlu Gwent i safle’r gwrthdrawiad ynghyd â phersonél o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ail-agorodd y ffordd tua 03.00 ddydd Llun, 11 Awst.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Fe wnaethon ni dderbyn adroddiad am wrthdrawiad traffig ffordd ar yr A465, i gyfeiriad Brynmawr, tua 10.35pm ddydd Sul.
"Roedd swyddogion ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn bresennol. Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau gar a dau geffyl.
"Fe aeth gyrrwr y ddau gerbyd i'r ysbyty. Bu farw dau geffyl yn y fan a'r lle.
"Mae'r A465, a oedd ar gau rhwng Tredegar a Glynebwy tra bod gwaith adfer yn digwydd, wedi agor ers hynny."