Gwynedd: £3.3 miliwn yn ychwanegol i ailddatblygu Amgueddfa Lechi Genedlaethol
Bydd £3.3 miliwn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis.
Yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Llun, fe fydd yr arian ychwanegol yn mynd tuag at greu canolfan ddysgu, ardal chwarae, siop a chaffi newydd yn yr amgueddfa, yn ogystal â gwneud y safle cyfan yn fwy hygyrch
Mae'r amgueddfa wedi bod ar gau dros dro ers Tachwedd y llynedd er mwyn gwneud y gwaith cadwraeth ac adnewyddu'n ddiogel.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys £3m ychwanegol ynghyd â grant o £300,000 o'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol tuag at adeiladu caffi newydd, Canolfan Ddysgu a Gwirfoddoli a chyfleusterau newid.
Mae hyn yn dod â chyfanswm cyfraniad y llywodraeth i'r prosiect i £5.8 miliwn, gyda £2.5 miliwn wedi'i ddyfarnu’n flaenorol.
Mae'r prosiect hefyd yn derbyn £6.2 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, fel rhan o gais ehangach a gafodd ei gyflwyno gan Gyngor Gwynedd, a £12 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, bod y buddsoddiad yn rhan o ymdrech i gynnig “profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr” yr amgueddfa, sydd wedi’i lleoli ar ran o safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
"Rydyn ni wedi cynyddu gwariant o ddydd i ddydd ar ddiwylliant 8.5% eleni ac wedi treblu buddsoddi mewn lleoliadau a safleoedd o'i gymharu â degawd yn ôl.
"Mae ein buddsoddiad yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol heddiw yn enghraifft ardderchog o'r ffordd mae hyn yn gweithio'n ymarferol, gyda £5.5 miliwn o gyllideb fy adran ynghyd â chyllid adfywio cymunedol i sicrhau bod yr amgueddfa wedi'i hailddatblygu yn cynnig profiad o'r radd flaenaf i ymwelwyr â thirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru – safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2021."
Gyda'r safle ar gau dros dro, mae Amgueddfa Cymru yn mynd â'r amgueddfa ar daith o amgylch atyniadau lleol a digwyddiadau cymunedol yng ngogledd Cymru a thrwy amgueddfeydd dros dro yn Ysbyty'r Chwarel a Chastell Penrhyn.