Arestio tri phlentyn yn eu harddegau ar amheuaeth o lofruddio dyn ar ynys
Mae tri phlentyn yn eu harddegau wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn ar Ynys Sheppey yng Nghaint, meddai'r heddlu.
Dywedodd Heddlu Caint bod y dyn oedd yn ei 40au wedi marw ar ôl dioddef ymosodiad yn yr ynys oddi ar arfordir gogleddol y sir yn Lloegr.
Mae dau fachgen 14 a 15 oed ac un ferch 16 oed yn cael eu cwestiynu am ei lofruddiaeth.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig tua 19.00 ddydd Sul yn ardal Ffordd Warden Bay yn nhref Leysdown-on-Sea.
Mae ditectifs yn apelio am dystion.
Llun: Traeth Leysdown-on-Sea gan Clem Rutter.