Gaza: Pum newyddiadurwr Al Jazeera wedi eu lladd gan Israel
Mae pump o newyddiadurwyr Al Jazeera wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad gan Israel ar babell yn Ninas Gaza.
Yn ôl y darlledwr fe gafodd y newyddiadurwr Anas al-Sharif, y gohebydd Mohammed Qreiqeh, a’r dynion camera Ibrahim Zaher, Mohammed Noufal a Moamen Aliwa eu lladd yn yr ymosodiad.
Roedd yr ymosodiad “wedi’i dargedu” ar babell oedd yn gartref iddyn nhw yn Ninas Gaza, medd Al Jazeera.
Cafodd saith o bobl eu lladd wedi’r ymosodiad nos Sul, a ddigwyddodd y tu allan i brif fynedfa ysbyty al-Shifa yn y ddinas.
Mae’r fyddin yn Israel wedi cadarnhau eu bod nhw bod yn targedu’r newyddiadurwr Anas al-Sharif.
Mewn telegram fe ddywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel (yr IDF) ei fod ef yn “gwasanaethu fel pennaeth grŵp terfysgol yn Hamas.” Wnaeth yr IDF ddim cyfeirio at y newyddiadurwyr eraill a gafodd eu lladd yn y telegram.
Yn ôl dadansoddwr o’r sefydliad Euro-Med Human Rights Monitor, Muhammed Shehada, doedd “dim tystiolaeth” bod al-Sharif yn gweithredu ar ran y grŵp.
Roedd Anas al-Sharif, 28 oed, yn newyddiadurwr adnabyddus oedd wedi bod yn adrodd ar y gwrthdaro ffyrnig yn y Dwyrain Canol yng ngogledd Gaza.
Cyn iddo gael ei ladd roedd wedi cyhoeddi fideo ar y cyfrwng cymdeithasol X yn dangos ffrwydradau yn ystod y nos. Roedd yn dweud bod Israel wedi lansio ymosodiadau dwys o’r awyr.
Mae Al Jazeera wedi cyhuddo Israel o ymosod ar ryddid y wasg.
Yn ôl Al Jazeera roedd y gorchymyn i lofruddio Anas Al Sharif – oedd yn “un o newyddiadurwyr dewraf Gaza” – a'i gydweithwyr, yn ymgais i dawelu'r lleisiau sydd yn adrodd ar yr hyn sydd yn digwydd yn Gaza.
Mae Committee to Protect Journalists yn dweud bod 230 o newyddiadurwyr a phobl sy’n gweithio yn y cyfryngau wedi cael eu lladd yn Gaza ers dechrau’r rhyfel ym mis Tachwedd 2023.
Fe wnaeth y mudiad, sydd yn cefnogi newyddiadurwyr yn rhyngwladol gyda phroblemau diogelwch a chyfreithiol, arwyddo llythyr ar y cyd gyda 15 o sefydliadau newyddiadurol a thyngarol ar 7 Awst yn galw ar Israel i roi’r diwedd i dargedu newyddiadurwyr yn Gaza.
Llun: Al Jazeera