Gyrrwr beic modur yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yn Abertawe
Mae person 48 oed oedd yn gyrru beic modur yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ar Ffordd Fabian yn Abertawe.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volkswagen Passat glas a beic modur am 09.40 yn y bore ar ddydd Sadwrn, 9 Awst.
Mae'r llu yn dweud eu bod yn ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd ac y dylai llygad dystion gysylltu gyda nhw.
Maent hefyd yn awyddus i yrwyr oedd yn yr ardal yr adeg hynny i wirio unrhyw ddeunydd dashcam.
Mae modd cysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 gyda'r cyfeirnod 2500254313 neu Crimestoppers yn ddienw ar y rhif 0800 555111.