Cynnig i wahardd pobl dros 70 oed rhag gyrru os yn methu prawf llygaid
Fe allai pobl dros 70 oed gael eu gorfodi i gael prawf llygaid er mwyn medru parhau i yrru.
Dyma un o'r mesurau mae Llywodraeth y DU yn eu hystyried er mwyn ceisio lleihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd.
Ar hyn o bryd mae gyrwyr fod cofnodi eu hunain os oes gyda nhw broblemau gyda'i golwg sydd yn effeithio ar eu gallu i yrru. Dim ond dwy wlad arall yn Ewrop sydd yn dilyn yr un mesurau.
O dan y cynllun newydd byddai yn rhaid i bobl dros 70 gael prawf llygaid bob tair blynedd pan maent yn adnewyddu eu trwydded gyrru. Os y byddent yn methu'r prawf llygaid fyddai dim hawl ganddyn nhw barhau i yrru.
Cynigion eraill yn ôl The Times yw tynhau'r rheolau yfed a gyrru a chosbau llymach i yrwyr sydd heb yswiriant neu sydd ddim yn gwisgo gwregys.
Mae disgwyl i'r newidiadau posib cael eu cyflwyno yn yr hydref fel rhan o strategaeth diogelwch ffyrdd.
Daw hyn wrth i'r ffigyrau'r llynedd ddangos bod 1,633 o bobl wedi eu lladd a bron 28,000 eu hanafu yn ddifrifol mewn digwyddiadau ffyrdd. Mae'r niferoedd yma wedi aros yn reit gyson wedi cwymp sylweddol yn 2000 a 2010.
Mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn ystyried newid y rheolau o safbwynt yr uchafswm y gall person yfed a gyrru o 35 microgram y 100 ml o anadl i 22 microgram. Byddai hyn yn golygu y byddai Cymru a Lloegr wedyn yr un peth a'r Alban.
Dywedodd ffynhonnell o'r blaid Lafur: "Ar ddiwedd cyfnod llywodraeth Llafur diwethaf roedd y nifer o bobl oedd wedi eu lladd neu eu hanafu yn ddifrifol ar ein ffyrdd ar ei isaf ond mae'r niferoedd wedi parhau yn ystyfnig o uchel o dan un llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall.
"Fydden ni ddim mewn unrhyw amgylchiadau eraill yn derbyn 1,600 o bobl yn marw, miloedd yn fwy yn cael eu hanafu yn ddifrifol gan gostio mwy na £2 biliwn y flwyddyn i'r GIG."
Y disgwyl yw bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref ac y bydd ymgynghoriad ar yr holl gynigion.