Netanyahu yn amddiffyn cynllun Israel i 'feddiannu' Dinas Gaza

Netanyahu yn amddiffyn cynllun Israel i 'feddiannu' Dinas Gaza

Mae Prif Weinidog Israel wedi amddiffyn cynllun ei lywodraeth i feddiannu Dinas Gaza.

Dywedodd Benjamin Netanyahu mewn cynhadledd i'r wasg mai dyma'r "ffordd orau" o ddod â'r rhyfel i ben ac y byddai'n gweithredu'n "eithaf cyflym".

Daw ei sylwadau wrth i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig alw cyfarfod brys i drafod y sefyllfa yn Gaza brynhawn Sul.

Mae'r DU, Denmarc, Ffrainc, Gwlad Groeg a Slofenia wedi cyflwyno datganiad yn condemnio cynllun Israel i feddiannu Dinas Gaza, ac maen nhw'n galw am i'r cynllun gael ei atal cyn cyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddarach.

"Mae'r cynllun hwn mewn perygl o dorri cyfraith ddyngarol ryngwladol," meddai arweinwyr Ewrop.

"Mae'r Cyngor Diogelwch wedi galw'n gyson am ryddhau'r gwystlon yn ddiamod ac ar unwaith.

"Ac rydym yn glir bod rhaid i Hamas ddiarfogi a pheidio â chwarae unrhyw ran yn y dyfodol yn llywodraethu Gaza, lle mae'n rhaid i'r Awdurdod Palesteinaidd chwarae rhan ganolog. Ond ni fydd y penderfyniad hwn gan Lywodraeth Israel yn gwneud dim i sicrhau dychweliad y gwystlon.

"Mae mewn perygl o beryglu eu bywydau ymhellach."

Cyflenwadau cymorth

Mae'r datganiad hefyd wedi galw ar Israel i godi cyfyngiadau ar gyflenwadau cymorth i Gaza.

Ond mae Llywodraeth Israel wedi dweud nad oes unrhyw gyfyngiadau ar gymorth i'r diriogaeth.

Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Sul, fe wnaeth Mr Netanyahu hefyd wadu bod Israel yn newynu pobl Gaza.

Mae cyfanswm y marwolaethau o ganlyniad i ddiffyg maeth wedi codi i 217, gan gynnwys 100 o blant, yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Palesteina.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth Israel rwystro'r holl gyflenwadau rhag dod i mewn i Gaza.

Ond fis Mai fe wnaeth ganiatáu i gymorth ddod i mewn eto, yn bennaf trwy'r Sefydliad Dyngarol Gaza, sy'n cael ei gefnogi gan America.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae lluoedd Israel wedi lladd o leiaf 1,373 o Balesteiniaid sy'n ceisio cael cyflenwadau bwyd ers diwedd mis Mai.

Cafodd 859 o'r rheini eu lladd ger safleoedd Sefydliad Dyngarol Gaza a 514 ar hyd llwybrau sy'n cael eu defnyddio gan gonfois cymorth. 

Mae Sefydliad Dyngarol Gaza wedi gwadu ffigur y Cenhedloedd Unedig.

Llun: Reuters

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.