Menyw'n 'byw mewn ofn' wedi i lofrudd ei mam fethu â dychwelyd i'r carchar
Mae menyw yn dweud bod ei theulu yn byw mewn ofn ar ôl i ddyn a gafwyd yn euog o lofruddio ei mam fethu â dychwelyd i'r carchar.
Mae Heddlu Sir Derby wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth i ddod o hyd i Vincent Raymond Lee a fethodd â dychwelyd i Garchar Sudbury ddydd Iau.
Roedd wedi cael caniatâd i adael y carchar agored dros dro.
Cafodd Lee ei anfon i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe ym mis Ebrill 1987 am lofruddiaeth Ann Worrell, 43 oed, yn ei chartref yn Galon Uchaf, Merthyr Tudful ym mis Mehefin 1986.
Roedd wedi llusgo ei chorff anymwybodol i'w gwely a'i roi ar dân.
Roedd hi wedi deffro yng nghanol ymosodiad a dywedodd yr erlyniad yn ei achos ei bod wedi dioddef "marwolaeth erchyll".
Yn 2018, rhyddhawyd Lee ar drwydded o Garchar Caerdydd ond torrodd amodau'r drwydded honno ac fe gafodd ei alw'n ôl i'r carchar.
Dywedodd merch Ann, Mandy, wrth WalesOnline: "Mae'r teulu wedi'u rhwygo gan y newyddion hwn eto gan iddo ddianc saith mlynedd yn ôl.
"Fyddwn i ddim eisiau i deulu arall fynd trwy'r hyn rydw i a'm teulu wedi bod drwyddo dros y blynyddoedd.
"Mae'n frawychus i ni wybod ei fod yn dal ar ffo yn rhywle."
Mae Lee, 63 oed, yn ddyn gwyn ac yn bum troedfedd a phum modfedd o daldra.
Mae'n foel gydag ychydig o wallt llwyd ar ochr ei ben ac fe'i gwelwyd ddiwethaf yn gwisgo crys-t glas, trowsus tracsiwt Nike llwyd, esgidiau du a sbectol las a du.
Dywedodd Heddlu Sir Derby: "Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl i garcharor fethu â dychwelyd i Garchar Sudbury.
"Ni ddychwelodd Vincent Lee i'r carchar agored ddydd Iau 7 Awst ar ôl cyfnod o ryddhau dros dro ar drwydded. Mae'n treulio dedfryd oes am lofruddiaeth."