'Ffrind i bawb': Teyrngedau i un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Caernarfon

Alun Cwstard
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Alun ‘Cwstard’ Roberts, un o sylfaenwyr Clwb Rygbi Caernarfon.
 
Mr Roberts oedd capten cyntaf y clwb o Wynedd pan gafodd ei sefydlu yn 1973. 
 
Roedd hefyd yn gyn-gadeirydd, yn gyn-lywydd ac yn gefnogwr drwy gydol ei oes.
 
Pan ddaeth tîm dynion Caernarfon yn bencampwyr Adran 1 Cymru, a'r tîm menywod yn bencampwyr y gogledd ar ddiwedd y tymor diwethaf, fe aeth y clwb a'r tariannau i Mr Roberts gael eu gweld, ac i rannu'r dathlu.
 
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, cyhoeddodd y clwb ddydd Sadwrn: "Gyda thristwch, mae Clwb Rygbi  Caernarfon yn nodi y bu farw un o’i sylfaenwyr a chefnogwr ar hyd ei oes, Alun ‘Cwstard’ Roberts. 
 
"Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu a’i gyfeillion."
 
Roedd Mr Roberts yn berchen ar fecws Carlton yn y dref am flynyddoedd, ac roedd yn gyfrifol am ddatblygiad y clwb yn y dyddiau cynnar.
 
'Fo oedd bob peth'
 
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Alun Roberts, cyn-gadeirydd a chyn-lywydd y clwb, bod "bob tro gwên ar ei wyneb".
 
"Gath Clwb Rygbi Caernarfon ei sefydlu nôl yn 1973, so mewn ffordd neshi ddod i nabod o tua'r adag hynny," meddai wrth Newyddion S4C.
 
"Roedd Alun efo gweledigaeth a heb ei gefnogaeth - ar y cae ac i ffwrdd oddi ar y cae - sa'r clwb ddim lle mae o heddiw 'ma. 
 
"Pan nesh i ddechrau chwarae, yn 1975, roeddan ni unai yn cyfarfod tu allan i'r post ar y maes yn Gaernarfon, neu os oedd 'na neb ar gael lle oedd Alun oedd yn y Black Boy yn chwilio i weld os oedd 'na chwaraewyr ar gael erbyn iddyn nhw ddechrau!"
Image
Alun Cwstard gydag aelodau'r clwb
Dywedodd Alun Roberts (mewn crys coch yn y rhes uchaf) bod Alun Cwstard wedi cael effaith fawr ar fywydau nifer o aelodau'r clwb
Ychwanegodd Mr Roberts: "Fo oedd y capten, fo oedd y cadeirydd, fo oedd bob peth ar y dechrau.
 
"A dyna sut neshi ddod i nabod o, ac wrth chwarae ar y cae - nid yn unig yng Nghymru, ond dros y dŵr yn Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg - 'da chi'n adeiladu cyfeillgarwch pan 'da chi efo'ch gilydd am rai diwrnodau.
 
"Dw i'n cofio fuon ni'n chwarae'r Golden Oldies yn Benidrom yn 2004, o'n i dros fy 50 ac oedd Alun dros ei 60 ac yn dal i chwarae, neu'n dal i drio chwarae!"
 
Fe aeth ymlaen i ddweud y bydd "colled fawr" ar ei ôl.
 
"Doedd ganddo byth ddim byd drwg i ddeud am neb, roedd bob tro gwên ar ei wyneb o - hyd yn oed pan oedd o'n cal slap ar y cae," meddai.
 
"Oddan ni'n tynnu arno fo achos mi aeth Alun i Ysgol Rydal yn Bae Colwyn ag oeddan ni'n deud mai public school boy oedd o, ond Cofi oedd o fatha ni gyd.
 
"Oedd o'n codi tua 03.00 yn y bore ac yn pobi ac wedyn yn dal i chwarae ar bnawn Sadwrn, sy'n dangos sut gymeriad oedd o."
 
Ychwanegodd: "Mae pawb yn nabod Cwstard, neu Alun Carlton. Ffrind i bawb - a pawb yn ffrindia efo fo."
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.