Damwain A55: Pedwar yn yr ysbyty a gyrrwr lori wedi ei arestio
Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, ar ôl i'w lori groesi ar draws ffordd yr A55 a tharo cerbydau oedd yn dod i'r cyfeiriad arall.
Cafodd pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty, gydag un wedi dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad am 15:21 ddydd Sadwrn ger Pentre Helygain.
Roedd y lori'n teithio i gyfeiriad y dwyrain pan groesodd drwy'r trawst diogelwch a tharo dau gerbyd oedd yn teithio ar y ffordd tua'r gorllewin.
Cafodd digwyddiad difrifol ei ddatgan ar y pryd gan y gwasanaethau brys.
Cafodd un person ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke mewn Ambiwlans Awyr, gyda un arall yn mynd i'r un ysbyty mewn ambiwlans.
Aeth dau berson hefyd i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans.
Mae gyrrwr y lori – dyn 58 oed – wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Mae wedi cael ei ryddhau ers hynny dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.
Roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad am sawl awr tra bod swyddogion o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Fforensig yn cynnal eu hymchwiliad.
Ail-agorodd un lôn i'r ddau gyfeiriad o'r A55 ychydig cyn hanner nos ac mae cyfyngiad cyflymder o 40 mya bellach ar waith.
Mae'r Rhingyll Danielle Ashley o'r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion.
Dywedodd: “Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi rhoi eu manylion inni yn dilyn gwrthdrawiad ddoe, fodd bynnag, rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd ychydig cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."
Mae rhan o'r ffordd ger Caerwys yn parhau i gael ei heffeithio ddydd Sul, ac fe allai achosi oedi sylweddol i deithwyr.
Mae lôn 1 ar agor i'r ddau gyfeiriad, ond mae lôn 2 ar gau i'r ddau gyfeiriad gan fod difrod i'r rhwystr yng nghanol y ffordd.