'Yr anrheg gorau': Mei Gwynedd yn derbyn cap eiconig Dewi Pws gan ei deulu
'Yr anrheg gorau': Mei Gwynedd yn derbyn cap eiconig Dewi Pws gan ei deulu
Mae'r cerddor a'r cynhyrchydd Mei Gwynedd wedi disgrifio'r wefr o dderbyn cap eiconig y diweddar Dewi 'Pws' Morris gan ei deulu, fel diolch am baratoi noson er cof amdano yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.
Nos Lun ar Lwyfan y Maes fe gafwyd cyngerdd arbennig gyda llu o sêr i gofio am y canwr, actor, ac awdur a fu farw fis Awst y llynedd yn 76 oed.
Dywedodd Mei Gwynedd mai ei fwriad oedd fframio'r cap a'i osod yn ei stiwdio er mwyn ysbrydoli cerddorion ifanc y dyfodol.
"Nath Rhiannon (gwraig Dewi Pws) ofyn i fi weithio ar y cyngerdd fisoedd yn ôl, a wedyn oedda ni'n cydlynu fo hefo'n gilydd a gweld sut oedd o'n mynd i weithio - a pa ganeuon? Honna oedd y joban fawr.
"Wrth gwrs doeddwn i ddim yn disgwyl dim byd ganddi, mond hug. A wedyn ges i hwn ganddi noson o'r blaen a mae wedi cymryd chydig bach o amser i sylweddoli be dwi wedi gael gaddi hi felly."
Ychwanegodd Mei: "Mae hwn yn eiconig dydi? Be dwi'n feddwl am Dewi Pws ydi hwn a banjo.
"Dwi'n meddwl mai'r syniad ydy fyddai'n ei fframio fo yn y stiwdio wedyn fydd o'n atgof i'r holl fandiau ifanc sy'n dod i fewn o be sy'n bosib drwy gerddoriaeth a chael hwyl drwy gerddoriaeth hefyd.
"Un o'r anrhegion gorau dwi erioed wedi ei gael, a fyddai'n ei drysori fo."