'Rhaid i Wcráin fod yn rhan o drafodaethau heddwch' medd arweinwyr Ewrop
Mae arweinwyr Ewrop wedi rhybuddio bod yn rhaid i Wcráin ei hun fod yn rhan o unrhyw drafodaethau heddwch.
Nos Sadwrn, cyhoeddodd y gwledydd Ewropeaidd a oedd yn rhan o gyfarfod diogelwch munud olaf yn Chevening yng Nghaint ddatganiad.
"Nid oes modd penderfynu ar y llwybr i heddwch yn Wcráin heb Wcráin," meddai'r datganiad ar y cyd gan arweinwyr y DU, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, Gwlad Pwyl, y Ffindir a'r Comisiwn Ewropeaidd.
Daeth y rhybudd ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump gyhoeddi y byddai'n cyfarfod Arweinydd Rwsia, Vladimir Putin yn Alaska ddydd Gwener.
Mae disgwyl i'r ddau arlywydd drafod y rhyfel yn Wcráin, gan ganolbwyntio'n benodol ar sut i ddod â'r rhyfel yno i ben.
Dywedodd yr Arlywydd Volodymyr Zelensky fod yn rhaid i unrhyw atebion gynnwys Wcráin, gan ychwanegu ei fod yn barod i gydweithio at "heddwch parhaol".
Yn hwyr ddydd Sadwrn, dywedodd swyddog yn y Tŷ Gwyn y byddai Mr Trump yn fodlon trefnu cyfarfod gyda Mr Putin a Mr Zelensky - ond am y tro, dim ond y ddau ohonyn nhw sy'n parhau i gael eu cynnwys, fel y gofynnwyd yn wreiddiol gan arweinydd Rwsia.
Mae Donald Trump wedi awgrymu o'r blaen y gallai ddechrau trwy gyfarfod â Putin yn unig, gan ddweud ei fod yn bwriadu "dechrau gyda Rwsia".
Ond dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd ei fod yn credu bod yna "gyfle" i drefnu cyfarfod ar gyfer y tri ohonyn nhw.
Nid yw'n glir a fyddai Putin yn cytuno i hyn ac mae wedi gwrthod sawl cyfle i gynnal sgyrsiau uniongyrchol gyda Zelensky.
'Ateb diplomyddol'
Wrth siarad ddydd Gwener, awgrymodd Trump hefyd y byddai "rhywfaint o gyfnewid tiriogaethau" er mwyn i Moscow a Kyiv ddod i gytundeb.
Mewn ymateb i'w sylwadau, dywedodd Zelensky ar Telegram: "Ni fyddwn yn gwobrwyo Rwsia am yr hyn y mae wedi'i chyflawni.
"Mae unrhyw benderfyniadau yn ein herbyn, unrhyw benderfyniadau heb Wcráin, hefyd yn benderfyniadau yn erbyn heddwch."
Yn eu datganiad nos Sadwrn, fe wnaeth arweinwyr Ewrop bwysleisio "na ddylid newid ffiniau rhyngwladol trwy rym".
"Mae gan Wcráin y rhyddid i ddewis ei thynged ei hun," meddai'r arweinwyr yn y datganiad, gan bwysleisio y byddai eu cenhedloedd yn parhau i gefnogi Wcráin yn ddiplomyddol, yn filwrol ac yn ariannol.
Ychwanegodd yr arweinwyr hefyd fod "ateb diplomyddol" yn hanfodol, nid yn unig i amddiffyn Wcráin ond hefyd i ddiogelu Ewrop.