Menyw ifanc yn priodi mewn hosbis wrth dderbyn gofal diwedd oes
Mae menyw ifanc o Sir Gâr wedi priodi mewn hosbis wrth iddi dderbyn gofal diwedd oes yno.
Ers iddi gael ei geni, mae Rebekah Davies, 25 oed, o Ben-y-bont wedi bod yn dioddef o neurofibromatosis math 1.
Mae'r cyflwr genetig yn achosi i diwmorau dyfu ar y nerfau a'r croen, ond ni achosodd broblemau mawr iddi tan ei hugeiniau.
Ddwy flynedd yn ôl dechreuodd y cynorthwyydd cylch meithrin brofi poen yn ei choes dde ac fe gafodd ddiagnosis o sciatica.
Ond gwaethygodd ei symptomau ac ym mis Ionawr eleni daeth ei phartner, John, o hyd i lwmp yn ei bol.
Yn fuan wedyn, cafodd Rebekah ddiagnosis o fath prin ac ymosodol o ganser sy'n datblygu yn y celloedd o amgylch y nerfau.
Ym mis Ebrill, fe aeth i Ysbyty Brenhinol Marsden yn Llundain i gael gwared ar y tiwmor ond daeth yn ôl yn ei bol a'i hesgyrn.
'Torri calon'
Dywedodd ei mam, Cathy, mai dim ond wythnosau sydd gan ei merch i fyw bellach.
Mae Rebekah yn derbyn gofal lliniarol yn Hosbis Tŷ Olwen yn Abertawe ac mae ei theulu yn codi arian ar gyfer ei hangladd.
"Fe gawsom wybod bod ganddi wythnosau i fyw," meddai ei mam mewn datganiad ar wefan GoFundMe.
"Roedd ganddi gynlluniau a breuddwydion i briodi a mynd ar fis mêl. Mae ei dyweddi wedi torri ei galon. Mae ei thad wedi torri ei galon.
"Rwy'n gweithio fel gofalwraig ond yn dilyn y newyddion hyn mae'n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd i fod gyda hi.
"Rwy'n awyddus iawn i dreulio cymaint o amser â phosib gyda hi, ond does gen i ddim cynilion i dalu am angladd na fy miliau.
"Mae ei chwaer wedi torri ei chalon ac rydyn ni eisiau bod gyda hi yn ei dyddiau olaf."
Mae'r ymgyrch ar wefan GoFundMe wedi codi bron i £2,500 hyd yma.