Disgwyl tymheredd o 30C mewn mannau ar ddechrau'r wythnos
Bydd y tymheredd yn codi i hyd at 30C mewn rhannau o'r wlad erbyn dydd Mawrth gyda chyfnod eithriadol o boeth arall ar y gweill.
Bydd diwrnod braf ddydd Sul yn cael ei ddilyn gan dywydd eithriadol o boeth i Gymru a Lloegr ar ddechrau'r wythnos newydd.
Fe allai hyn arwain at stormydd mellt a tharanau yn datblygu, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Dywedodd Tom Morgan o'r Swyddfa Dywydd: “Bydd rhaniad gogledd-de yn bendant yn y tywydd dydd Llun.
“Eithaf cymylog ar draws yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhannau o ogledd Lloegr, y glaw yn tueddu i fynd a dod, ond yn fwyaf parhaus yng ngorllewin yr Alban.
“Fel arall, bydd Cymru a Lloegr yn gweld cyfnodau heulog yn bennaf, er y bydd mwy o gymylau uchel allan yna o'i gymharu â dydd Sul, felly bydd yr heulwen yn niwlog ar adegau.”
Mae'r trothwy swyddogol o gyfnod o wres mawr (heatwave) yn digwydd pan fydd lleoliad yn cofnodi o leiaf dri diwrnod yn olynol gyda thymheredd yn uwch na'r trothwy yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae hyn yn 25C ar gyfer y rhan fwyaf o'r DU, ond mae'n codi i 28C yn Llundain a'r cyffiniau, lle mae tymereddau fel arfer yn uwch.