Sir y Fflint: Rhybudd am oedi hir i deithwyr ar yr A55
Mae na rybudd am oedi hir i deithwyr ar ffordd yr A55 yn Sir y Fflint ddydd Sul yn dilyn gwrthdrawiad ger Caerwys.
Cafodd y ffordd ei chau ddydd Sadwrn rhwng Cyffordd 31 ger Caerwys a Chyffordd 32 am Dreffynnon.
Mae rhan o'r ffordd ger Caerwys yn parhau i gael ei heffeithio ddydd Sul, ac fe allai achosi oedi sylweddol i deithwyr.
Mae lôn 1 ar agor i'r ddau gyfeiriad, ond mae lôn 2 ar gau i'r ddau gyfeiriad gan fod difrod i'r rhwystr yng nghanol y ffordd.
Ddydd Sadwrn fe gafodd teithwyr eu dargyfeirio ar hyd ffyrdd lleol eraill.
Llun: Traffig Cymru