Tafarn yng Ngwynedd yn ailagor yn dilyn ymgyrch gymunedol
Bydd tafarn yng Ngwynedd yn agor ar ei newydd wedd ddydd Sul yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i'w throi yn fenter gymunedol.
Roedd ymgyrchwyr o gymuned Llanfrothen, rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, wedi bod yn codi arian i brynu prydles Y Brondanw Arms, neu Y Ring.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd arweinwyr Menter Y Ring fod eu hymdrechion yn llwyddiannus ar ôl iddyn nhw werthu £197,100 o gyfranddaliadau.
Ers hynny maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed i adfer yr adeilad yn dilyn dros chwe mis o fod ar gau dros y gaeaf.
Mae'r dafarn yn rhan o Ystâd Brondanw, a gafodd ei sefydlu gan bensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis.
Fe gafodd Menter Y Ring ei hysbrydoli i achub y dafarn yn dilyn sawl ymgyrch lwyddiannus gan gymunedau eraill i droi tafarndai yn fentrau cymunedol.
Bydd tenantiaid newydd y dafarn, Rhun a Rebecca Ellis o Wynedd, yn cymryd yr awenau ddydd Sul.
'Pawb yn cyffroi'
Dywedodd Dafydd Emlyn, cadeirydd y fenter, ei bod yn "ryddhad" cael agor y dafarn o'r diwedd.
"Mae 'di bod yn 11 mis eitha prysur a calad i jyst cael i lle yda ni rŵan," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ar ôl cael y goriadau natho ni ffeindio faint o waith yn iawn oedd angen ei wneud. Roedd y system drydanol yn dda i ddim byd, felly mae 'di cael ei ail weirio i gyd a 'da ni wedi gorfod rhoi system larwm tân newydd mewn.
"Does 'na ddim buddsoddiad wedi bod yn y lle ers tua deugain mlynedd, felly 'da ni wedi gwneud y bar a'r stafell fwyta hefyd."
Bydd drysau'r dafarn yn ailagor am 14.00 ddydd Sul, gyda'r bwriad o ddod yn hwb i'r gymuned unwaith eto.
"I fi dw i ond yn nabod y Ring mewn un ffordd a'r naws Cymreigaidd 'na sydd na," meddai Dafydd. "Mae pawb yn cyffroi i weld y lle'n agor."
Fel rhan o'r dathliadau, bydd nifer o berfformwyr - gan gynnwys Huw Aye Rebals, a Phil Gas a Ger - yn chwarae.
Y bwriad, meddai Dafydd, ydi parhau i gynnig digwyddiadau sy'n dathlu cerddoriaeth Gymraeg yn y dyfodol.
Fe aeth ymlaen i ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r fenter dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Heb y bobl yma sydd 'di buddsoddi yn bell ac yn agos fysa ni ddim 'di gallu neud hyn," meddai.
"Mae 69% o'r buddsoddwyr yn dod o Wynedd ac mae 'na rai cyn belled ag America ac Awstralia."
Ychwanegodd: "Dw i'n edrych ymlaen at gael y peint cynta 'na!"