
Clwb rygbi'n cario cefnogwr sy'n defnyddio cadair olwyn i gopa'r Wyddfa
Clwb rygbi'n cario cefnogwr sy'n defnyddio cadair olwyn i gopa'r Wyddfa
Mae dyn o Ynys Môn sy'n defnyddio cadair olwyn wedi gwireddu ei freuddwyd o gyrraedd copa’r Wyddfa a hynny gyda chymorth chwaraewyr ac aelodau o glwb rygbi yn y gogledd.
Ers iddo fod mewn damwain beic modur yn 19 oed, mae Phil Thompson, 66 oed, wedi bod yn defnyddio cadair olwyn.
Yn gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Bangor, mae Mr Thompson yn gwylio ei fab Sam, 29 oed, yn chwarae i dîm y dynion bob penwythnos ym mhob tywydd.
Cyn dechrau'r tymor fe wnaeth y clwb benderfynu y byddai'n cynnal her gerdded er mwyn ceisio codi arian ar gyfer y timau ieuenctid.
Yn wreiddiol y bwriad oedd i'r chwaraewyr ieuenctid ac oedolion i gerdded o'r clwb i Lanberis, ac i fyny'r Wyddfa, gan gario bagiau taclo mawr.
Dywedodd Mark Owen, un o hyfforddwyr ieuenctid y clwb a oedd yn gyfrifol am drefnu'r her: "Roedden ni 'di penderfynu bo' ni am gerdded o'r clwb yn cario tackle bags - dau ohonyn nhw - a mynd â nhw i dop yr Wyddfa.
"Gatho ni presentation night efo'r first team un noson ag o'n i'n trio fy ngorau i gael yr hogiau i fod yn rhan ohono fo, ond doedd 'na ddim llawer o interest - dw i'n meddwl oedd pobl yn ofn gorfod cario'r bagiau'r holl ffordd."
Ond ar ôl clywed hanes Mr Thompson gan ei fab Sam, a'r ffaith ei fod yn edifar nad oedd wedi mynd i gopa mynydd uchaf Cymru cyn ei ddamwain, fe benderfynodd swyddogion y bydden nhw'n ceisio helpu Mr Thompson i gymryd rhan yn yr her.
'Teimlad ecstatig'
Y bwriad gwreiddiol oedd i Mr Thompson ddefnyddio cadair olwyn drydanol.
Ond deuddydd cyn cychwyn ar yr her, fe gafodd wybod na fyddai'r gadair yn gallu cyrraedd y copa.

Gyda'r her yn y fantol, fe wnaeth cwmni Proweld o Gaernarfon gamu i'r adwy drwy gynnig gosod ffrâm fetel o gwmpas y gadair ddiwrnod cyn yr her.
Dywedodd Mr Owen: "Chwarae teg mi aeth o yna am 08.00 y bore ac erbyn 11.30 roedd y gadair olwyn wedi cael ei chreu a that was the final decision.
"Doeddan ni ddim wedi ei thestio hi a doeddan ni ddim wedi gwneud unrhyw practice runs, ag oeddan ni'n gwybod bod o'n mynd i fod yn ddipyn o gamp achos mae Phil tua 17 i 18 stôn - ag oeddan ni'n meddwl, mae hon yn mynd i fod yn dipyn o challenge rŵan.
"So, be neshi oedd mynd ar y grŵp Whatsapp a deud bod 'na change of plan ac ydi pawb yn hapus?
"A fel tîm rygbi nath pawb droi rownd a deud, 'da ni'm yn gadael ar ôl, 'da ni am neud hyn."
Gan gychwyn eu taith am 05.30 o Glwb Rygbi Bangor gyda'i bagiau taclo, fe wnaeth dwsinau o aelodau gyflawni'r daith i Lanberis, drwy Mynydd Llandygai a Deiniolen, cyn cyfarfod Mr Thompson ar droed yr Wyddfa.
Yn y pen draw, fe lwyddodd Mr Thompson i gyrraedd copa'r mynydd am y tro cyntaf yn ei fywyd ar ôl cael ei dywys gan y criw.
Ac ar ôl 20 milltir, dros 4,500 troedfedd a saith awr o gerdded, mae'r clwb wedi llwyddo i godi bron i £3,000 tuag at adran ieuenctid y clwb.

Yn ôl Mr Owen, mawr oedd yr emosiwn ymhlith y criw.
"Rhwng bob dim oedd yr hogia wedi tynnu efo'i gilydd," meddai.
"Roedd 0'n team work briliant, absolutely briliant. Roedd 'na weiddi, roedd 'na boostio ein hunain i fyny.
"Un o'r petha oeddan ni'n ddeud oedd 'fresh legs', wedyn pan oedd yr hogia yn barod i swapio oeddan nhw'n gweiddi 'fresh legs' ag oedd o fatha relay.
"Oeddan ni'n pasio pobl oedd yn cerdded yn naturiol efo'r gadair olwyn 'ma ag oedd o'n ecstatic o deimlad."