'Parhau â'r system gadarn': Pennod newydd i Rhinedd Williams fel Arolygydd y Gwisgoedd
'Parhau â'r system gadarn': Pennod newydd i Rhinedd Williams fel Arolygydd y Gwisgoedd
A hithau yn enedigol o Sir Benfro, mae Rhinedd Williams yn edrych ymlaen at ddechrau yn swyddogol yn ei rôl fel Arolygydd y Gwisgoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026.
Rhinedd Mair, sef ei henw gorseddol, sydd yn olynu Ela Jones fel Arolygydd y Gwisgoedd.
Mae Ela Cerrigellgwm, ei henw gorseddol, wedi bod yn Arolygydd y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd ers 2012, ond fe fydd yn rhoi'r gorau i'r swydd eleni.
Mae’r gwaith o baratoi y gwisgoedd yn cymryd trwy gydol y flwyddyn, wrth iddyn nhw gael eu golchi, eu cludo a’u defnyddio yn y seremonïau cyhoeddi ac yna ym mhrif seremonïau'r Eisteddfod.
Un o Faenclochog, Sir Benfro yw Rhinedd ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol y Preseli, Crymych cyn graddio mewn Dyniaethau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, lle y bu wedyn yn Gofrestrydd y Coleg.
Wrth fagu’r plant, bu’n athrawes piano, yn gyfeilydd ac yn dysgu canu mewn ysgolion lleol.
Ond dychwelyd i fyd gweinyddol oedd y nod, ac mae wedi gweithio yn Rheolwr Swyddfa i amryw o sefydliadau gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg.
A hithau’n byw yn Llanddarog ers 33 o flynyddoedd gyda’i gŵr, Geraint, a’u tri o blant, cydsefydlodd Rhinedd ‘Adran y Neuadd Fach’ ym Mhorthyrhyd yn 2007 gyda’r bwriad o drosglwyddo profiadau ei phlentyndod i’r genhedlaeth nesaf.
"Mi fydd yn fraint mawr iawn i mi fod yn Arolygydd y Gwisgoedd," meddai wrth Newyddion S4C.
"O’dd yr amser yn iawn yn fy mywyd i yn bersonol i roi ymgais i fewn a ymgeisio am y swydd, a o’n i yn teimlo bod hwnna yn bwysig, bod rhaid bod y cyfnod yn iawn i fi achos o’n i’n sylweddoli bod hi’n swydd gyfrifol ag angen rhoi tipyn o sylw iddi.
"Ac wrth gwrs, cael cyfweliad gan Aelodau yr Orsedd, a clywed bore wedyn bo’ fi wedi bod yn llwyddiannus felly o’dd e’n dipyn o fraint ac yn dipyn o sioc hefyd ond yn sioc braf iawn iawn."
Er mai'r flwyddyn nesaf y bydd hi'n dechrau yn ei rôl yn swyddogol, mae Rhinedd wedi bod yn cysgodi Arolygydd y Gwisgoedd presennol, Ela Jones, yn y Brifwyl eleni.
"Fi ‘di bod yn cysgodi Ela oddi ar cael fy mhenodi ym mis Ionawr felly ma’ fe ‘di bod yn brofiad arbennig," meddai.
"Ma’ cael cydweithio gydag Ela wedi bod yn arbennig a sylweddoli faint o ymrwymiad a faint o waith ma’ hi ‘di neud yn y cefndir i roi trefn ar yr holl wisgoedd ‘ma sydd gyda ni," meddai.
"Ma’i wedi gosod system gadarn, felly bydda i yn gallu parhau gyda’r system ac adeiladu arni gobeithio a hwyluso os oes angen, a cadw trefn gadarn."
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal yn Sir Benfro.
'Apelio yn fawr iawn'
Mae Rhinedd yn teimlo yn ffodus iawn o gael dechrau yn ei swydd newydd a hithau yn enedigol o'r sir.
"Ma’ hwnna yn un rheswm hefyd pam o‘n i’n teimlo bo’ fi am roi cais i mewn ar gyfer y swydd gan bod hi’n dod i Sir Benfro," meddai.
"Bod hi ar stepen drws yn fy ardal enedigol i a felly o’dd hwnna yn apelio yn fawr iawn."