Bachgen yn euog o lofruddio'i gyd-ddisgybl mewn ysgol yn Sheffield

Harvey Willgoose

Mae bachgen 15 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio ei gyd-ddisgybl mewn ysgol yn Sheffield yn ystod eu hegwyl ginio.

Bu farw Harvey Willgoose, a oedd hefyd yn 15 oed, ar ôl iddo gael ei drywanu yn ei galon yn Ysgol Uwchradd Gatholig All Saints ar 3 Chwefror.

Clywodd Llys y Goron Sheffield sut roedd disgyblion eraill wedi ffoi "mewn ofn a phanig", gyda rhai yn cloi eu hunain mewn cwpwrdd ysgol wedi'r ymosodiad.

Fe wnaeth y diffynnydd, nad oes modd ei enwi o achos ei oedran, bledio'n euog i ddynladdiad ond roedd wedi gwadu llofruddio, gan ddweud iddo "golli ei dymer" yn dilyn cyfnod hir o fwlio ac nad oedd yn cofio beth ddigwyddodd.

Ond dywedodd yr erlynwyr ei fod "eisiau dangos ei fod yn galed" ac "yn gwybod yn union beth oedd yn ei wneud".

Ddydd Gwener, fe wnaeth rheithgor ei gael yn euog o lofruddiaeth ar ôl iddyn nhw ystyried eu dyfarniad am dros 14 awr.

'Gweithred o ddial'

Clywodd Llys y Goron Sheffield fod y trywanu yn ôl pob tebyg yn "weithred o ddial, i ddial ar Harvey am rywbeth".

Roedd y ddau wedi ffraeo sawl diwrnod cyn marwolaeth Harvey ar ôl ffrae rhwng dau fachgen arall, clywodd y llys.

Dywedodd yr erlynwyr fod gan y diffynnydd ddiddordeb "afiach" mewn arfau a bod ganddo luniau ohono ar ei ffôn yn sefyll gyda chyllyll hela a machete.

Clywodd y llys hefyd fod ganddo "hanes sylweddol o fynd yn flin a defnyddio trais yn yr ysgol".

Dywedodd yr erlynydd Richard Thyne KC fod y diffynnydd wedi ymchwilio i ystafelloedd gwylltio (rage rooms) ac, ychydig dros wythnos cyn y trywanu, roedd wedi chwilio am y canlynol ar y wê: "Aros i rywun swingio er mwyn i mi allu rhyddhau fy nicter".

Clywodd y rheithgor fod lluniau teledu cylch cyfyng ar ddiwrnod y trywanu wedi dangos y diffynnydd yn ceisio cythruddo Harvey, a oedd wedi aros yn "heddychlon".

Clywodd y llys fod Harvey wedi dweud wrth ei ffrindiau fod y diffynnydd wedi bod yn "ymddwyn fel pe bai ganddo gyllell" o dan ei siwmper yn eu gwers wyddoniaeth y bore hwnnw, ond roedden nhw'n meddwl ei fod yn dweud celwydd.

Dywedwyd wrth y rheithgor fod Harvey yn siarad yn hapus â’i ffrindiau y tu allan wrth i’r egwyl ginio ddechrau, pan ddaeth y diffynnydd ato.

Image
Lluniau CCTV gan Heddlu De Sir Efrog o'r diffynnydd yn gwthio Harvey
Llun teledu cylch cyfyng gan Heddlu De Sir Efrog o'r diffynnydd yn gwthio Harvey yn gynharach yn y dydd ar 3 Chwefror 2025

Yn ôl un tyst yn ei arddegau, roedd ffrae wedi arwain at y diffynnydd yn dyrnu a gwthio Harvey, gan achosi iddo faglu yn ôl, cyn tynnu cyllell allan a'i drywanu.

Dywedodd merch arall a wnaeth roi tystiolaeth: "Fe aethon ni i mewn i fynd i ddweud wrth yr athrawes, ond roedd yr athrawes wedi rhewi hefyd. Doedd hi ddim yn gwybod beth i'w wneud... Roedd pobl yn rhedeg, yn sgrechian ym mhobman. Roedd yn, fel, anhrefn."

Fe wnaeth y diffynnydd ddweud wrth y rheithgor fod dioddef bwlio hiliol a gwawdio am gyflwr meddygol yn golygu ei fod yn mynd yn flin ac "na allai ei reoli".

Dywedodd y bachgen hefyd wrth y rheithgor fod gan ei fam broblemau iechyd meddwl a bod ei dad, a oedd yn ei daro, yn aml ddim yno.

Roedd wedi mynd â'r gyllell i'r ysgol oherwydd ei fod yn meddwl y byddai'n cael ei anafu'r diwrnod hwnnw, ychwanegodd.

Dywedodd fod Harvey wedi edrych yn flin pan wnaeth sôn am ffrae flaenorol, ac roedd ganddo un llaw yn ei drowsus, a wnaeth iddo feddwl bod ganddo gyllell.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.