Gweithwyr casglu sbwriel i fynd ar streic yn Wrecsam
Mae streic arall gan weithwyr casglu sbwriel yn cael ei chynnal mewn ail anghydfod dros gyflogau ac amodau.
Bydd aelodau o undeb Unite yn Wrecsam yn mynd ar streic ar Awst 23 a 30, Medi 6, 13, 20 a 27, Hydref 4, 11, 18, a 25, a Thachwedd 1, 8 a 14.
Mae aelodau Unite yn Birmingham yn rhan o anghydfod hir sydd wedi arwain at streic lawn ers misoedd.
Dywedodd undeb Unite fod Cyngor Wrecsam wedi newid y ffordd y mae goramser yn cael ei roi i weithwyr.
Mae Cyngor Wrecsam wedi dweud eu bod yn "hynod siomedig" gyda phenderfyniad aelodau'r undeb ar ôl "ymgynghoriad hir".
Maent yn dweud fod yr anghydfod yn ymwneud â newid casgliadau sbwriel o wyliau banc i ddydd Sadwrn, er mwyn ceisio arbed dros £100,ooo
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Ni ddylid disgwyl i unrhyw weithiwr dderbyn newidiadau gorfodol i’w patrymau gwaith neu golli allan ar gyflog a enillwyd yn galed.
“Mae Cyngor Wrecsam wedi ymddwyn yn warthus ac mae unrhyw weithredu diwydiannol yn gwbl ar eu bai nhw.
“Bydd Unite bob amser yn cefnogi’n llawn ein haelodau sy’n ceisio amddiffyn eu cyflog ac amodau gweithle drwy’r amser.”
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: "Dechreuodd y cyngor ar raglen drawsnewid helaeth mewn ymgais i fynd i’r afael â’r penderfyniadau anodd sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ddiogel o ran arian.
"Mae pob un o'r undebau llafur cydnabyddedig wedi bod yn rhan o’r gwaith ymgynghori ar fanylion y cynigion ar gyfer arbed.
"Mae'r arbediad penodol hwn, sy'n ymwneud â newid casgliadau sbwriel i ddydd Sadwrn yn hytrach na gwyliau banc, yn arbed dros £100k.
"Mae'r adran wedi cynnal ymgynghoriad helaeth gyda'r gweithlu ar y cynigion, gyda dim ond 19 o ymatebion unigol ymhlith gweithlu o 245 o weithwyr yn anghytuno â'r cynlluniau.
"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gweithio'n galed i achub swyddi ac yn parhau i gefnogi darparu gwasanaethau cyhoeddus yn fewnol – yn enwedig y gwasanaethau rheng flaen hyn.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r egwyddor hon ac yn siomedig iawn bod yr undeb llafur hwn wedi dewis cymryd y camau hyn ac o bosibl rhoi'r cyhoedd yn y fwrdeistref sirol trwy gyfnod arall o darfu diangen ar wasanaethau."