Dadlau mai'r Eisteddfod yw’r ‘corff mwya’ democrataidd sy’n bodoli’

Betsan Moses

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud ei bod yn credu mai’r ŵyl yw’r “corff mwya’ democrataidd sy’n bodoli”.

Dywedodd Betsan Moses serch hynny nad oes nifer yn sylweddoli bod modd iddyn nhw ymuno ym mhrosesau yr Eisteddfod o wneud penderfyniadau.

Daw ei sylwadau wedi beirniadaeth am weithdrefnau Llys yr Eisteddfod a’r penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama'r llynedd.

Fore dydd Gwener dywedodd Llywydd newydd Llys yr Eisteddfod, Nic Parry, ei fod am fod yn “arweinydd ar gorff tryloyw” y mae “pobl yn ymddiried ynddo”.

Wrth ymateb i’r ffrae am y Fedal Ddrama y llynedd, dywedodd y sylwebydd pêl-droed a’r cyn-farnwr ei bod yn bwysig fod "pawb yn cael eu clywed" wrth wneud penderfyniadau.

Cafodd y gystadleuaeth y llynedd ei hatal gyda chyhoeddiad o'r llwyfan, ond ni chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny na hyd heddiw, gan arwain at flwyddyn o ddyfalu.

Wrth gael ei holi am sylwadau Nic Parry ddydd Gwener dywedodd Betsan Moses: “Mewn gwirionedd, da ni’n dadlau y’n ni’r corff mwya’ democrataidd sy’n bodoli.”

Ychwanegodd: “Un peth sy’n drist ydi bod rywun yn dweud ddoe nad oedden nhw’n gwybod bod modd iddyn nhw ymuno a’r llys, bod rhaid i chi fod yn aelod o’r Orsedd er mwyn bod yn aelod o’r Llys.

“Felly dwi’n siŵr y bydd Nic yn dymuno ei fod o’n gallu bod yn ymgyrch o ran dyma beth yw’r cyfloed.

“Ac os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu bwydo sylwadau dewch ac ymunwch.

“Ac fel y dywedon ni ddoe fe fyddwn ni’n edrych ar sut allwn ni ddiwygio fe allwn ni wneud yn barhaus gyda phrosesau.

“Mae pob corff yn gorfod edrych ac yn gorfod edrych a gwirio o ran eu prosesau a’u llywodraethant ac mi fyddwn ni’n gwneud hynny."

‘Cymodi’

Un o'r rheini sydd wedi mynegi anfodlonrwydd gyda'r drefn yw'r Prifardd a'r Prif Lenor Dylan Iorwerth a wnaeth gynnig yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod ddydd Iau er mwyn osgoi problemau tebyg i ffrae y Fedal Ddrama yn y dyfodol.

Dywedodd wrth Radio Cymru bod cyfarfodydd y Llys yn "anfoddhaol", a bod angen ei gwneud hi'n "haws i aelodau cyffredin ddod â chynigion gerbron".

Wrth addo tryloywder yn y dyfodol, dywedodd Nic Parry ddydd Gwener bod Dylan Iorwerth yn "codi pwynt pwysig". 

"Y peth pwysicaf ddudodd Dylan Iorwerth ydy, 'Ni ydy'r Eisteddfod' a dyna dw i am ddod ydy trefn lle mae aelodau a chefnogwyr yr Eisteddfod yn teimlo eu bod nhw yn cael eu clywed," meddai ar raglen Dros Frecwast fore dydd Gwener.

"Ac mae'r pwynt mae Dylan yn ei godi bod rhaid bod 'na brosesau sy'n caniatáu hynny i ddigwydd dw i'n credu yn bwynt pwysig.

"Dim ond i gadarnhau be' mae'r Eisteddfod eisoes wedi'i gadarnhau mewn ymateb i hyn, mi fydd y cynigydd ac mi fydd yr eilydd yn cael eu gwahodd i'r trafodaethau pellach sy'n mynd i fod.

"Does 'na ddim modd gwneud penderfyniadau fel hyn nes bod yr arbenigwyr yn trafod ac fel 'da ni 'di clywed mae'r pwyllgor arbenigol yn mynd i drafod. 

"Ond mi fydd 'na le i'r lleisie ac yn bwysicach mi na i bopeth alla i neud i bobl beidio teimlo'n rhwystredig ond i deimlo, fel mae'r Eisteddfod yn awyddus iawn iddyn nhw deimlo, bod nhw'n rhan o hyn i gyd achos da ni efo'n gilydd yn y fenter yma."

Ychwanegodd: "Dw i 'di gwneud gyrfa o geisio cymodi a weithia mae'n rhaid deud, 'Fi sy'n deud'.

"Ond 'di hynny ddim yn mynd i ddigwydd nes bo' fi wedi gwrando a cheisio cymodi, achos dw i isho clywed llais pawb a yndydi gymaint gwell os 'di penderfyniadau yn cael eu gwneud lle mae pawb yn teimlo a) bod nhw wedi cael eu clywed a b) bo' ni wedi gwrando."

'Corff tryloyw'

Fe aeth ymlaen i ddweud y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn delio ag unrhyw sefyllfaoedd anodd drwy fod yn dryloyw.

"Dw i isho bod yn arweinydd ar gorff tryloyw. Dw i isho bod yn arweinydd ar gorff mae pobl yn ymddiried ynddo fo," meddai.

"Ond mae 'na adegau'n codi pan gewch chi ddim rhannu gwybodaeth. Mae hynny yn gallu bod oherwydd pryder am les staff, cystadleuwyr, beirniaid, bob math resymau. Mae 'na sefyllfaoedd yn codi, ond mae o yn bwysig, dw i'n cytuno, bod gymaint o wybodaeth ag sy'n bosib yn cael ei rannu."

Wrth gael ei holi am helynt y Fedal Ddrama'r llynedd, dywedodd bod rhaid sicrhau nad ydi "straeon negyddol" yn "tanseilio" y gystadleuaeth.

"Mae byd y ddrama wedi ymateb mewn ffor' sydd 'di rhoi'r byd hwnnw mewn golau mor bositif," meddai. 

"Wrth gwrs mae'r grachen yma'n mynd i gael ei phigo, allwn ni ddim atal neb rhag pigo crachen, ond 'da ni ddim yn mynd i ganiatáu i hyn gymryd oddi wrth be' oedd ddoe yn seremoni wefreiddiol o hapus a phositif.

"Mae'n bwysig bo' ni'n tanlinellu hynny a dw i'n mynd i neud yn sicr nad ydi straeon negyddol yn mynd i danseilio'r sylw mae gwaith positif gweithwyr caled wedi greu."

Fe wnaeth Mr Parry hefyd bwysleisio unwaith eto y byddai'n brwydro yn erbyn unrhyw awgrym o lacio’r rheol Gymraeg yn yr Eisteddfod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.