
Ynys a chaer hanesyddol ar werth am £3 miliwn yn Sir Benfro
Mae ynys hanesyddol gyda chaer o Oes Napoleon oddi ar arfordir Sir Benfro ar werth am £3 miliwn.
Mae Ynys Thorn wedi'i lleoli ger Aberdaugleddau ac yn cynnwys eiddo gyda chaer o Oes Napoleon sy'n adeilad rhestredig Gradd II.
Cafodd yr amddiffynfa ar yr ynys ei hadeiladu yn 1854 er mwyn atal y Llynges Ffrengig rhag ymosod ar Aberdaugleddau.
Y bwriad oedd amddiffyn Porthladd Brenhinol Aberdaugleddau rhag cael ei oresgyn gan Napoleon III.
Dyma un o'r caerau olaf ym Mhrydain i gael ei hadeiladu er mwyn atal llongau pren rhag cyrraedd y tir mawr.
Cafodd yr ynys ei gwerthu am y tro cyntaf ym 1932 ac ers hynny mae wedi bod yn westy ac yn gartref teuluol.
'Gwirioneddol unigryw'
Dywedodd y gwerthwr tai Strutt & Parker, sy'n hysbysebu'r eiddo, ei fod yn "wirioneddol unigryw".
"Dim ond o'r môr neu'r awyr y gallwch gyrraedd yr ynys ac mae mewn lleoliad amlwg wrth fynedfa un o harbyrau naturiol mwyaf y DU, gan gyflwyno ei hun fel eiddo trawiadol a gwirioneddol unigryw," meddai'r cwmni ar eu gwefan.
"Ar hyn o bryd mae'n cael ei fwynhau fel cartref teuluol gyda digonedd o weithgareddau ar ei garreg drws, mae'r ynys yn Westy a Safle cofrestredig ac felly mae ganddi botensial i gael ei defnyddio mewn nifer o ffyrdd, o fywyd preifat i fentrau mwy masnachol."

Mae'r ynys ddwy erw yn gweithredu oddi ar y grid ac yn ddibynnol ar systemau ynni adnewyddadwy.
Yn ôl Strutt & Parker, mae'r eiddo yn cynnwys cegin, ystafell fyw a phum ystafell wely sy'n cynnig llety ar gyfer hyd at 20 o westeion.
Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys pum ystafell ymolchi yn ogystal â gweithdai ac ystafelloedd storio.
Mae swyddfa breifat â blaen gwydr, sef yr orsaf wylio gynt, wedi'i lleoli ar glogwyn gorllewinol yr ynys.
Mae pum angorfa breifat ar y môr, cei preifat a chraen hydrolig 10m ar gyfer codi cyflenwadau o gychod.