Galw am well strategaeth ar gyfer safleoedd storio ynni batris

Galw am well strategaeth ar gyfer safleoedd storio ynni batris

Mae angen gwell strategaeth lywodraethol ar gynlluniau i godi safleoedd storio ynni allai fod yn beryglus, yn ôl Cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd y Senedd.

Dywedodd Llyr Gruffydd bod ceisiadau ar gyfer safleoedd o'r fath weithiau yn cael eu "taflu mewn" ar gyfer rhai lleoliadau "annerbyniol ac anaddas" ac heb eu rheoli'n ddigonol.

Mae 87 cais i godi system stori ynni batri (BESS) yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae rhai ymgyrchwyr yn poeni am eu diogelwch yn dilyn rhai tanau mawr mewn safleoedd tebyg.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd systemau BESS yn darparu'r hyblygrwydd carbon isel sydd angen arnom.

Mae BESS yn caniatáu i ynni adnewyddadwy gael ei storio, fel arfer mewn batris lithiwm-ion, er enghraifft pan fo'r gwynt yn hyrddio ac yn gyrru melinau gwynt, neu'r haul yn tywynnu ar baneli solar.

Gall yr ynni wedyn gael ei ryddhau o'r batris i'r grid pan fo mwy o alw.

Mae fframwaith rheoleiddio a diogelwch cadarn ar gyfer safleoedd o'r math yma.

Tanau

Ond mae tanau wedi bod mewn safleoedd tebyg, gan gynnwys un yn Lerpwl yn 2020 gymerodd 59 awr i'w ddiffodd, a thân arall yng Nghaliffornia yn gynharach eleni.

Yng Nghymru, mae un o'r ceisiadau arfaethedig ger pentref Cefn Rhigos yn Rhondda Cynon Taf. 

Yma, byddai y system yn medru mewnforio ac allforio 200MW i neu o'r grid.

Image
batris
Clare Rees gyda Gwyn Loader ger pentref Cefn Rhigos

Mae Clare Rees, sy'n byw yn lleol, yn poeni am dân posib ar y safle.

Dywedodd: "Ein prif bryder fel cymuned yw agosatrwydd y safle at bobl ac at gartrefi.

"Maen nhw'n dweud bod y risg yn isel, ond mae'r risg yna ac mae angen rheolau yn eu lle i ddiogelu pobl."

Dim sylw

Dywedodd yr asiant sydd yn gweithio ar ran y datblygwr nad oedd gan y cwmni sydd yn gyfrifol unrhyw sylw i'w wneud.

Mae Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau bod gweinidgion Llywodraeth Cymru nawr wedi galw'r prosiect i mewn. 

Mae wedi ei atal dros dro hyd nes i'r datblygwr ddarparu rhagor o wybodaeth.

O Gaernarfon mae'r Athro Kathryn Toghill yn dod yn wreiddiol. 

Bellach mae hi'n yn gweithi ym Mhrifysgol Lancaster, lle mae'n arbenigo ar gemeg a technoleg batri.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'r risg yn real. Mae'r risg yn real i bob un batri lithiwm.

"Os oes rhywbeth yn mynd yn wrong, mae'n gallu mynd drwy y batris i gyd.

"Ond mae lot mwy o wybodaeth rwan i ddeall beth yw failure mechanisms gyda batris o'r seis yma sydd yn helpu'r gwasanaeth tân a'r cwmniau sydd yn rhedeg y pwerdai yma."

Image
Batris
Athro Kathryn Toghill

Wrth gyfeirio at geisiadau BESS yn gyffredinol, heb sôn am unrhyw gynllun yn benodl, dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru Llyr Gruffydd:

"Y broblem sydd gynnon ni ar hyn o bryd yw bod dim digon o reolaeth ar yr holl gynlluniau batri yma sydd yn dod ymlaen.

 "Mae 'na gwmnïau jesd yn taflu ceisiadau mewn, ceisiadau gobeithiol, er mwyn gweld a y'n nhw'n ddigon ffodus i gael eu derbyn.

 "Mae rhai o'r lleoliadau, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol ac anaddas felly mae angen gwell strategaeth ar Lywodraeth Cymru."

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd Systemau Storio Ynni Batri yn ein cynorthwyo i ddefnyddio mwy a mwy o ynni adnewyddadwy i ateb ein galw am ynni, gan ddarparu'r hyblygrwydd carbon isel sydd ei angen arnom. 

"Bydd safleoedd o'r fath yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal diogelwch ein rhwydwaith trwy wasanaethau ymateb cyflym, tra'n cefnogi gwaith integreiddio ynni adnewyddadwy ehangach ar draws ein grid trydan."

Ychwanegod eu llefarydd: "Mae'r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) wrthi’n ystyried graddfa'r datblygiad BESS arfaethedig fel rhan o'r broses Diwygio Cysylltiadau, gan fod graddfa'r datblygiad ledled Prydain Fawr sy'n cael ei gynnig gan ddatblygwyr yn fwy nag y bydd ei angen ar y system. 

"Mae gan y broses gynllunio rôl hefyd wrth sicrhau bod datblygiadau wedi'u lleoli a'u cynllunio'n dda, tra'n ystyried barn cymunedau sy'n eu cynnal."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.