Cymru Premier JD: Cipolwg ar gemau agoriadol y bencampwriaeth eleni
Mae’r tymor newydd Cymru Premier JD wedi cyrraedd a bydd y cyfan yn dechrau nos Wener pan fydd Llanelli yn croesawu’r Barri wrth i’r Cochion ddychwelyd i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers chwe blynedd.
Bydd hi’n frwydr ddifyr ar Ddôl y Bont hefyd pan fydd Hwlffordd yn herio Pen-y-bont, sef y timau orffennodd yn y 3ydd a’r 2il safle y tymor diwethaf.
Ac yna brynhawn Sul bydd Bae Colwyn yn croesawu Cei Connah i Ffordd Llanelian, gyda’r Gwylanod yn dychwelyd i’r haen uchaf ar y cynnig cyntaf ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr y gogledd y tymor diwethaf.
Hwn fydd y tymor olaf dan y drefn bresennol o gael 12 tîm yn y gynghrair, cyn i’r nifer o aelodau gynyddu i 16 o glybiau ar gyfer tymor 2026/27.
Mae hynny’n golygu y bydd chwech o glybiau yn esgyn o’r ail haen ar ddiwedd y tymor hwn, a’r ddau isaf yn syrthio o’r uwch gynghrair.
Bydd pedwar safle ar gael yn Ewrop ar ddiwedd y tymor hwn, cyn i’r swm hwnnw syrthio yn ôl i lawr i dri ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Nos Wener
Hwlffordd v Pen-y-bont | Nos Wener – 19:45
Bydd y ddau dîm yma’n awyddus i adeiladu ar eu llwyddiant ar ôl mwynhau tymor arbennig yn 2024/25 ble orffennodd Hwlffordd yn eu safle uchaf ers dros 20 mlynedd (3ydd), tra bod Pen-y-bont wedi gorffen yn eu safle uchaf erioed (2il).
Er hynny, roedd hi’n haf siomedig i’r ddau dîm a gollodd ar y cynnig cynta’n Ewrop gyda Hwlffordd yn baglu’n erbyn Floriana o Malta, a Phen-y-bont yn cael eu curo gan Kauno Zalgiris o Lithwania.
Hwlffordd oedd â record amddiffynnol orau’r gynghrair yn 2024/25, ond mae Tony Pennock wedi gorfod talu am y record safonol honno wrth i glybiau proffesiynol gipio nifer o’i brif chwaraewyr dros yr haf.
Mae’r amddiffynnwr talentog, Lee Jenkins wedi arwyddo i Gasnewydd, tra bod y golwr Zac Jones wedi ymuno â AFC Fylde.
Yn ogystal â hynny mae’r chwaraewr rhyngwladol o Malta, Luke Tabone wedi symud i Southport, a’r cefnwr Jacob Owen wedi ymuno â’r Seintiau Newydd.
Byddai’r pedwar yn sicr wedi bod yn allweddol i’r Adar Gleision yn Ewrop, a gollodd yn erbyn Floriana yn bennaf oherwydd diffyg disgyblaeth gan i’r amddiffynwyr ildio dwy gic o’r smotyn a gweld dau gerdyn coch dros y ddau gymal (yn ogystal â cherdyn coch i’r rheolwr, Tony Pennock).
Mae Pen-y-bont wedi ceisio cryfhau dros yr haf trwy arwyddo’r ymosodwr Noah Daley o Gaerfyrddin a’r cefnwr Ash Baker o’r Seintiau Newydd.
Ond colli bu hanes Pen-y-bont yn Ewrop hefyd, yn erbyn y tîm sydd ar frig Cynghrair Lithwania, Kauno Zalgiris (4-1 dros y ddau gymal).
Mae Pen-y-bont ar rediad o saith gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd (ennill 5, cyfartal 2), a dyw’r Adar Gleision m’ond wedi sgorio unwaith yn ystod y rhediad hwnnw.
Llanelli v Y Barri | Nos Wener – 19:45
Wedi chwe blynedd o aros mae Llanelli yn ôl yn yr uwch gynghrair ar ôl ennill pencampwriaeth Cynghrair y De yn 2024/25.
Llanelli oedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn 2007/08, ond ar ôl cyfnod ariannol heriol fe aeth y clwb i’r wal yn 2013 cyn ail-sefydlu yn fuan wedyn a dechrau dringo’r cynghreiriau unwaith eto.
Fe gododd y Cochion yn ôl i’r haen uchaf ar gyfer tymor 2018/19, ond roedd hi’n flwyddyn anodd i’r clwb orffennodd ar waelod y tabl gyda dim ond 16 pwynt wedi 32 o gemau.
Bydd Lee John a’r tîm hyfforddi yn benderfynol o roi cynnig gwell arni eleni gan adael eu stamp ar y gynghrair.
Roedd hi’n dymor cymysglyd i’r Barri llynedd gyda’r tîm yn dechrau’r ymgyrch yn gryf ond yn methu â sicrhau lle’n y Chwech Uchaf.
Gorffennodd Y Barri’n 7fed cyn colli’n drwm o 5-2 yn erbyn Caernarfon yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle.
Mae’r Dreigiau wedi cryfhau’n amddiffynnol trwy arwyddo’r golwr dawnus, George Ratcliffe o Gei Connah, a chyn-amddifynnwr y Seintiau Newydd, Keston Davies.
Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y clybiau yma wedi gorffen yn gyfartal 1-1 wedi 90 munud.
Y Bala v Y Fflint | Nos Wener – 19:45
Mae hi’n gyfnod o newid mawr yn Y Bala wedi ymddiswyddiad Colin Caton a dreuliodd 22 o flynyddoedd wrth y llyw ym Maes Tegid.
Esgynnodd Y Bala o’r drydedd haen i’r uwch gynghrair dan arweiniad Caton gan ennill Cwpan Cymru, Cwpan Nathaniel MG a gorffen yn yr ail safle deirgwaith.
Mae Steve Fisher wedi bod wrth ochr Caton ar hyd y daith fel is-hyfforddwr, ac yntau sy’n cymryd yr awenau fel rheolwr ar gyfer y tymor newydd gyda newidiadau mawr i’r garfan.
Dim ond pump o’r garfan flaenorol sydd wedi aros gyda’r clwb ar gyfer y tymor newydd gyda nifer o enwau newydd yn ymuno gan gynnwys y blaenwr John Owen o Aberystwyth.
Ar ôl osgoi’r cwymp y tymor diwethaf gan orffen yn hafal ar bwyntiau gyda Chei Connah yn yr 8fed safle, bydd Y Fflint yn gobeithio am flwyddyn gystal eleni.
Mae cyn-gapten Aberystwyth, Jack Thorn wedi ymuno â’r Sidanwyr, yn ogystal â’r asgellwr Joe Faux o Gaernarfon.
Bydd hi’n dasg anodd i’r Fflint, sydd heb ennill yn eu 13 gornest flaenorol yn erbyn Y Bala (colli 11, cyfartal 2) ers Rhagfyr 2019.