Hyfforddwr rygbi Cymru'n hapus i groesawu Rees-Zammit yn ôl i'r garfan
Mae prif hyfforddwr newydd tîm rygbi Cymru, Steve Tandy, wedi croesawu'r newyddion bod Louis Rees-Zammit yn dychwelyd i'r gamp, gan ddweud ei fod yn "agored" i'w groesawu'n ôl i'r garfan.
Mae'r asgellwr 24 oed yn chwilio am glwb ar ôl iddo gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf y bydd yn gadael yr NFL er mwyn dychwelyd i chwarae rygbi.
Daw ei benderfyniad 18 mis wedi iddo adael y gamp er mwyn "mynd ar ôl her newydd" yn y gynghrair bêl-droed Americanaidd.
Ar ôl ymuno â thîm Cymru yn 2020, fe aeth Rees-Zammit ymlaen i chwarae 32 o weithiau a sgorio 14 cais dros ei wlad.
Fe wnaeth ymddangos am y tro olaf yn nhwrnamaint Cwpan Rygbi'r Byd yn 2023.
"'Dw i'n eithaf agored i bethau, dw i jyst eisiau ei weld e'n chwarae," meddai Tandy wrth Sky Sports.
"Dyna'r peth pwysicaf, ei gael e'n ôl a'i fod mewn amgylchedd mae e'n hapus iawn ynddo.
"Mae'r ffaith ei fod ar gael yn ychwanegiad enfawr i'r garfan. Rydych chi'n gwybod y bydd mewn siâp gwych, bydd yn ffit ac mae'n chwaraewr rygbi greddfol sy'n gwneud pethau'n naturiol iawn.
"Bydd yr hyn y mae wedi'i ddysgu wedi'i wneud yn chwaraewr rygbi hyd yn oed gwell, felly mae'n fater, iddo ef, i ddod o hyd i'r clwb a'r amgylchedd cywir, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn ôl i ble roedd, os nad yn well."
Bydd Cymru yn chwarae pedair gêm ryngwladol yn yr hydref yn erbyn yr Ariannin, Japan, Seland Newydd a De Affrica.
Er ei fod yn ymddangos bod nifer o dimau clwb â diddordeb yn Rees-Zammit, mae Tandy yn barod i'w groesawu "lle bynnag y mae o".
"Gobeithio, ymhen amser, y gallwn ddenu chwaraewyr fel 'na, gyda phobl ddim eisiau gadael," meddai Tandy.
"Dydw i ddim yn dweud na fyddai'n wir, rwy'n agored iawn ac eisiau i'n chwaraewyr gorau fod ar gael i ni.
"Lle bynnag y mae o, mae tair gêm brawf yn yr hydref y gallai fod ar gael ar eu cyfer o bosib ac mae hynny'n wych i ni."