Lluoedd Israel yn paratoi i feddiannu Dinas Gaza

IDF

Mae cabinet diogelwch llywodraeth Israel wedi cymeradwyo cynllun fydd yn galluogi lluoedd y wlad i feddiannu Dinas Gaza - cam allai arwain at feddiannu holl diriogaeth Gaza ei hun yn y pen draw.

Mae'r datblygiad diweddaraf wedi derbyn beirniadaeth hallt gan wrthwynebwyr y prif weinidog o fewn y wlad, Benjamin Netanyahu, a hefyd yn rhyngwladol.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, fod penderfyniad llywodraeth Israel i “gynyddu ei hymosodiad ymhellach” a meddiannu Dinas Gaza “yn anghywir, ac rydym yn ei hannog i ailystyried ar unwaith.”

Yn Israel ei hun mae'r gwrthbleidiau wedi dweud mai cam yw hwn i sicrhau cefnogaeth i Netanyahu o fewn yr asgell dde - ac mae penderfyniad y cabinet wedi ei feirniadu hefyd gan deuluoedd rhai o'r gwystlon Iddewig sydd yn parhau yn nwylo Hamas ers eu hymosodiad gwaedlyd ar Israel ar 7 Hydref 2023.

Mae 50 o wystlon yn parhau yn nwylo Hamas, a'r gred yw bod 20 yn dal yn fyw.

Dinas Gaza oedd y fwyaf o ddinasoedd Gaza ei hun cyn yr ymgyrch filwrol ddiweddaraf gan Israel, sydd wedi lladd degau o filoedd o Balesteiniaid - hyd at 60,000 yn ôl gweinyddiaeth iechyd Hamas.

Bellach mae'n anodd gwybod faint yn union o sifiliaid sy'n dal i fyw yng ngweddillion y ddinas, ond mae'r cam o'i meddiannu'n awgrym clir o fwriad Netanyahu i gymryd rheolaeth o holl diriogaeth Gaza yn y pen draw.

Pan ofynnwyd i Benjamin Netanyahu mewn cyfweliad cyn cyfarfod y cabinet nos Iau os mai'r bwriad oedd meddiannu tiriogaeth Gaza i gyd, dywedodd: "Rydym yn bwriadu gwneud hynny, er mwyn sicrhau ein diogelwch, cael gwared ar Hamas yno, a galluogi'r boblogaeth i fod yn rhydd o Gaza.

"Dydyn ni ddim eisiau ei gadw. Rydyn ni eisiau cael perimedr diogelwch," ychwanegodd. 

"Rydyn ni eisiau ei drosglwyddo i luoedd Arabaidd a fydd yn ei lywodraethu'n iawn heb ein bygwth ni a rhoi bywyd da i bobl Gaza."

Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi lleisio pryder dwys am fwriad Israel i ehangu ei hymgyrch filwrol yn Gaza. 

"Byddai hyn yn peri risg o ganlyniadau trychinebus i filiynau o Balesteiniaid a gallai beryglu bywydau'r gwystlon sy'n weddill yn Gaza ymhellach," meddai'r ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Miroslav Jenča mewn cyfarfod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddydd Mawrth.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.