Y Doctor Cymraeg: 'Angen mwy na thechnoleg i ddysgu'r iaith'
Y Doctor Cymraeg: 'Angen mwy na thechnoleg i ddysgu'r iaith'
Mae apiau fel Duolingo yn gallu gweithio wrth ddysgu Cymraeg, ond dylai dysgwyr wneud pethau "tu allan i hynny".
Dyna farn Stephen Rule neu'r 'Doctor Cymraeg' sy'n dweud y dylai dysgwyr gymryd y cyfle i drochi eu hunain mewn sefyllfaoedd fel yr Eisteddfod lle mae cyfle i siarad yr iaith.
Mae dros 3 miliwn o bobl wedi defnyddio'r cwrs dysgu Cymraeg ar Duolingo, yn ôl ffigyrau gan wneuthurwyr yr ap.
Ond roedd gwerth yr ap yn bwnc trafod ar y Maes ddydd Iau wrth i Babell y Cymdeithasau gynnal sgwrs: '10 mlynedd o Duolingo: Beth yw gwerth technoleg wrth ddysgu Cymraeg?'
Wrth siarad â Newyddion S4C ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam dywedodd Mr Rule mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw oedd ei fod "yn dibynnu sut ma’ person yn eu defnyddio nhw".
“Ma’ nhw’n gallu gweithio, ond ar yr un pryd, ma’ rhaid neud pethe tu allan i hynne, ma’n rhaid adio pethe at y broses ag at y profiad hefyd," meddai.
“Efo rhywbeth fel yr Eisteddfod, ‘den ni gyd yn dechrau yn Gymraeg rwan, ac ma’ pobl sy’n dod yma yn gweld nifer o bobl sy’n siarad yr iaith a hefyd ma’ nhw jest yn teimlo trwy wrando am gwpl o orie.
“Ma’ gen i ffrind yma rwan o Ynys Manaw ma’ hi newydd ordro ei Mac & Cheese hi yn Gymraeg, ag oedd hi’n ffantastig - mis o Duolingo."
Dilyniant
Dysgodd Stephen Rule y Gymraeg yn yr ysgol, wedi iddo gael ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg.
Mae ganddo bron i 90,000 o ddilynwyr ar Instagram, bum mlynedd ers iddo gychwyn ei gyfrif yn rhoi cymorth i bobl gyda'u Cymraeg.
Mae ganddo bellach 'syrjeri Doctor Cymraeg' ar Faes yr Eisteddfod lle mae pobl yn gallu mynd i holi a dysgu mwy am y Gymraeg.
Dywedodd mai ei brif gyngor oedd bod angen i bobl gael amynedd wrth ddysgu'r Gymraeg ac i beidio bod yn galed ar eu hunain tra'n gwneud camgymeriadau.
“Triwch bob dim ‘chos ti byth yn gwybod pa fath o bethe sy’n mynd i weithio i ti ond yn amlwg, ‘den ni efo ein ffonau ni, rhan fwya o’r amser, felly i gael gymaint mewn un peth, mae’n beth da," meddai.
“Dwi ‘di usio Duolingo am gwpl o flynyddoedd, efo Ffrangeg, a dwi ‘di bod yn siarad Ffrangeg ar y Maes ambell waith efo pobl sydd ‘di dod o Lydaw so ma’ nhw yn gweithio ond ma’ rhaid i ti roi dy hun mewn idda fo hefyd.
“Ma’n cymyd lot o waith caled oherwydd hynne.
“Ma’n rhaid i bobl fod yn llym ar eu hunain, ma’ jyst rhaid bod yn gadarn ar dy hun a sticio ati."