Reform UK yn fuddugol mewn ail isetholiad yn Sir Gâr eleni

Reform Llangennech

Mae plaid Reform UK wedi llwyddo i ddod i'r brig mewn isetholiad arall yn Sir Gaerfyrddin, gan wthio Plaid Cymru i'r ail safle.

Cafodd yr isetholiad ei gynnal ddydd Iau, gyda Carmelo Colasanto o Reform UK yn cael ei ethol yn gynghorydd newydd ar ward Llangennech ar ôl derbyn 694 pleidlais.

Daeth ymgeisydd Plaid Cymru, Richard Talog Jones, yn ail gyda 489 o bleidleisiau.

Cafodd yr isetholiad ei gynnal yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Gary Jones, oedd wedi cynrychioli'r blaid ers blynyddoedd.

Daeth y Blaid Lafur yn drydydd gyda 380 o bleidleisiau.

Ddiwedd mis Mai, llwyddodd Reform UK i sicrhau eu sedd gyntaf ar Gyngor Sir Gâr, wedi i Michelle Beer ddod i'r brig yn isetholiad ward Lliedi.

Dyma ganlyniadau'r isetholiad yn Llangennech yn llawn:

Carmelo Colasanto - Reform UK – 694

Richard Talog Jones – Plaid Cymru - 489

Jordan Sargent – Llafur Cymru – 380

Justin Griffiths – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – 26

Edward Evans - Ceidwadwyr Cymreig – 14

Wayne Erasmus - Gwlad - 6

Roedd y ganran a bleidleisiodd yn 39.37%.

Llun: Carmelo Colasanto/Reform UK

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.