'Joio'r cyfrifoldeb' o diwnio holl bianos y Brifwyl
'Joio'r cyfrifoldeb' o diwnio holl bianos y Brifwyl
Mae Gerwyn Murray wedi cael wythnos brysur hyd yma yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn tiwnio'r holl bianos ar Faes y Brifwyl.
Yn un o'r bobl gyntaf i gyrraedd y Maes, mae Gerwyn yn gyfrifol am sicrhau fod pob un o'r 20 piano, o'r Pafiliwn i'r Tŷ Gwerin, wedi eu tiwnio cyn i'r holl gystadlu a pherfformio ddechrau.
"Ma' un ohona ni yn troi fyny erbyn 06:00/06:30 yn bora a 'dan ni'n mynd rownd y pianos i gyd, ma' genno ni ddipyn o bianos o gwmpas y Maes so neud swir bod heina i gyd mewn tiwn cyn i neb arall ddechra' dod i mewn," meddai wrth Newyddion S4C.
Mae angen sicrhau bod y pianos yn cael eu tiwnio yn rheolaidd yn ôl Gerwyn.
"Ma'n early start a wedyn 'dan ni'n checio pianos yn y dydd pan 'dan ni'n gallu, a wedyn erbyn diwadd dydd, 'dan ni'n checio ar gyfer petha'r nos, a hynny yn digwydd bob dydd.
"Ma' 'na lot o elfenna gwahanol rili, ma'r biano mewn cae yn cael gwahanol dymheredd, yn mynd fyny ag i lawr a gan bo' nhw'n cael lot o ddefnydd yn ystod y dydd so ma nhw'n cael dipyn o use.
"Ma' 'na waith arnyn nhw bob dydd, llwythi o gyngherddau mewn diwrnod mewn ffordd."
'Wrth ein bodda'
Er ei fod yn teimlo cyfrifoldeb wrth diwnio, mae Gerwyn yn teimlo yn ffodus iawn o gael gwneud y rôl.
"Oes ma’ ‘na gyfrifoldeb ond ‘dan ni’n licio’r cyfrifoldeb hefyd, ‘dan ni’n joio be’ ‘dan ni’n neud a dan ni wrth ein bodda’ yn dod i ‘Steddfod," meddai.
"Dwi’m yn licio gwrando ar y biano ‘swn i’m yn isda yn y Pafiliwn yn gwrando ar neb yn chwara’ hi ‘chos dwi’m yn licio gwrando ar rywun yn chwara’ piano dwi ‘di diwnio mewn ffordd.
"Ond mae o’n fraint cael dod yma bob blwyddyn, ‘dan ni fel cwmni, ’dan ni’n dod ers blynyddoedd maith ag ia, mae o’n grêt."
Os nad ydy'r piano mewn tiwn, gall arwain at gantorion neu offerynnwyr ar weddill y llwyfan hefyd allan o diwn.
"Ma’ bob piano yn gorfod bod yn concert pitch, A440 ‘lly, a ma’ hynna yn effeithio ar os ‘di rhywun yn chwara offeryn efo’r biano neu rywun yn canu, ma’ nhw wedyn allan o diwn os di’r piano allan o diwn mewn ffordd," meddai Gerwyn.
"Mwy o amsar ma’ piano yn mynd heb gael ei diwnio, mae o’n gostwng a gostwng a gostwng lawr, a ma’ hynna yn effeithio ar y biano wedyn.
"Ond ma’ bob piano yn gorfod bod bang on genna ni yma achos ma’ ‘na dalent mawr yn iwsio’r pianos o gwmpas y lle does, so mae o angen bod yn iawn iddyn nhw.
"Yn y Pafiliwn, ma’ hi’n biano £120,000 ‘lly, ma’ hi’n biano da sydd yn gallu gwrth-sefyll dipyn o betha’ ond eto ma’ hi yn cael lot o hammering yn ystod y dydd rhwng bob dim rili.