'Llawn cariad': Teyrnged i feiciwr modur a fu farw yng Nghyffordd Llandudno
Mae teulu dynes a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad beic modur yng Nghyffordd Llandudno fis diwethaf wedi rhoi teyrnged iddi.
Cafodd Sophie Elizabeth Baker, oedd yn 31 oed o ardal Conwy, ei disgrifio fel merch, wyres, chwaer, modryb, nith, cefnder a chwaer-yng-nghyfraith sydd wedi “gadael twll enfawr na fydd byth yn cael ei lenwi.”
Roedd hi’n “caru” gyrru ei beic modur ar hyd y mynyddoedd yn y gogledd, a hynny wedi gwneud iddi deimlo “ei hapusaf.”
Dywedodd ei brodyr a chwiorydd Zak, Sam a Claire nad oedd hi “byth yn ofni bod ei hunain – hyd yn oed os oedd hynny’n golygu ei bod yn ychydig yn flêr, ychydig yn ystyfnig, neu ychydig yn ddadleuol."
“Mewn gwirionedd dyna oedd rhai o’r pethau roedden ni'n eu caru fwyaf amdani.
“O dan bob dim roedd yna galon llawn gariad oedd yn bob tro’n ffyddlon i’r rheiny oedd hi’n ei charu.”
Roedd Sophie wedi ei charu “gan bawb,” ychwanegodd ei rhieni Julie a Jeff.
Mae swyddogion Heddlu’r Gogledd yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am tua 07.40 bore ddydd Mercher, 20 Awst.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd 6G yr A546, Cyffordd Llandudno.
Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 25000689666.