Nic Parry yw Llywydd newydd Llys yr Eisteddfod

Nic Parry

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Nic Parry yw Llywydd newydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli.  

Cafodd hyn ei gadarnhau yng nghyfarfod y Llys ddydd Gwener yn dilyn proses recriwtio. Mae’n olynu Ashok Ahir, a benodwyd yn 2019.

Bu Mr Parry yn gyfreithiwr yn y Wyddgrug cyn cael ei benodi’n farnwr yn Llysoedd y Goron yng ngogledd Cymru. Mae hefyd yn adnabyddus fel sylwebydd ar gemau pêl-droed, ac yn ddiweddar bu yn y Swistir gyda thîm merched Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Wrth ymgymryd â’r swydd, dywedodd y byddai’n brwydro’n erbyn unrhyw awgrym o lacio’r rheol Gymraeg. Mae Mr Parry hefyd wedi addo sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau’r Llys a’r Bwrdd Rheoli.

“Does gen i ddim amheuaeth o gwbl bod rhaid bod yn ffyddlon i’r rheol Gymraeg. Mae’n hollol bosib byw am wythnos yn defnyddio’r Gymraeg heb golli allan o gwbl, gan fod y ddarpariaeth ar gyfer y di-Gymraeg yn well nag erioed,” meddai.

Ychwanegodd Mr Parry ei fod yn awyddus i roi ei enw ymlaen gan ei fod yn ystyried y swydd yn un arbennig o bwysig wrth ofalu am un o’n prif sefydliadau.

“Mae’n swydd lle mae angen symud gyda’r oes, ac ro’n i’n meddwl fod gen i’r sgiliau sydd eu hangen yn yr unfed ganrif ar hugain i wneud y gwaith.

“Mae’n gymysgedd o nerfusrwydd a balchder hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at ymroi iddi a gwneud yn siŵr fy mod yn ei chyflawni mewn ffordd ymarferol fydd, gobeithio, yn cynnwys Eisteddfodwyr,” meddai.

'Yma i wrando'

Bu Mr Parry yn farnwr yn Llysoedd Cymru nes iddo ymddeol yn gynharach eleni.  Mae’n gobeithio dod â’r un elfennau i’w waith fel Llywydd Llys yr Eisteddfod, meddai.

“Dwi wedi bod yn farnwr ers dros chwarter canrif – am bymtheg mlynedd yn llawn amser, a deng mlynedd yn rhan amser cyn hynny, meddai.

"Pan wnes i ymddeol, cefais y pleser o eistedd a chlywed pobl yn dweud pethau neis amdana i, gyda llawer yn dweud fod gen i arddull lle mae pobl yn meddwl fy mod i ar eu hochr nhw," meddai.

“Dwi yma i wrando arnyn nhw – ond pan mae angen rhoi’r droed i lawr, rydw i’n gallu gwneud hynny hefyd. Dwi’n meddwl mai fel yna y bydda i’n arwain.”

Cred Mr Parry fod cydweithio gyda Llywodraeth Cymru’n rhan bwysig o’r rôl, a dywed, “Mae’r esgid yn gwasgu’n ariannol, ac mae ewyllys da’r llywodraeth yn allweddol. 

Mae hynny’n rhywbeth sydd angen ei gynnal a’i feithrin ymhellach. Ar hyn o bryd, rwy’n falch o ddweud bod swyddogion yn sicrhau bod y berthynas adeiladol honno’n parhau.

“Ond dim ond os yw’r Eisteddfod yn ticio’r bocsys mae’r llywodraeth angen iddi eu ticio y bydd hynny’n digwydd – ac mae hynny’n golygu cynnwys mwy o bobl, a’i gwneud yn ŵyl sydd ddim yn unig i’r Cymry Cymraeg traddodiadol. 

"Mae hynny’n cael ei danlinellu mewn ardaloedd fel y dwyrain, ar wahân i’r gorllewin.

"Mater arall sydd angen ei bwysleisio yw sicrhau bod busnesau’n gweld budd o fod yn rhan o’r ŵyl hon. Fedra i ddim deall pam na fyddai busnesau eisiau gweld eu proffil yn cael ei godi mewn digwyddiad lle mae 170,000 o bobl yn dod mewn wyth diwrnod. Felly, rwy’n meddwl bod hynny’n bwysig."

Ac wrth gymryd yr awenau gan Ashok Ahir, cyfaddefodd fod un elfen o’r gwaith yn peri pryder iddo.

"Dwi’n dal i boeni sut dwi’n mynd i roi’r clogyn ar y buddugwyr – achos fedra i ddim rhoi fy ‘dressing gown’ fy hun.

"Ro’n i’n gwylio Ashok a Llinos yr wythnos hon yn gwisgo’r buddugwyr, ac roeddwn i’n poeni y byddwn i wedi cau’r botwm anghywir," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.