'Ceisio tynnu pobl sydd ddim yn gyfarwydd â'r Eisteddfod' i'w noddi yn 2026
'Ceisio tynnu pobl sydd ddim yn gyfarwydd â'r Eisteddfod' i'w noddi yn 2026
Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2026 wedi dweud bod cyfle i gynnig nawdd i "bobl falle sydd ddim yn gyfarwydd â'r Eisteddfod" er mwyn cyrraedd y targed arian.
Bob blwyddyn mae'r Eisteddfod yn gosod targed i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl i godi £400,000 ar gyfer ei chynnal.
Y flwyddyn nesaf fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Sir Benfro, gyda dalgylch yr ŵyl yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin sydd yn ffinio â Sir Benfro.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Davies, bod yr ymgyrch codi arian yn gyfle i wahodd busnesau "bach a mawr" i noddi'r ŵyl hyd wythnos.
"Ma’ angen ffrindie newydd masnachol ar yr ŵyl," meddai.
"Mae hynny'n creu yr asgwrn cefn a’r dygnwch ariannol hynny sydd angen efo’r cynaliadwyaeth i unrhyw ŵyl o’r faint hyn pan y’ch chi’n ystyried fydd e’n costi peth nesa’ i £7 miliwn i’w rhoi ymlaen.
“Ac felly dwi’n credu ma’ ‘na gyfle a ddod o gefndir busnes y’n hunain a wedi bod yn ymwneud â’r Sioe Frenhinol am ddegawd, ma’ cyfle fydden i’n gweud i edrych yn wahanol i ddod â busnesau yn agosach ac fod y pecyn nawdd yn adlewyrchu haelioni y cwmnïau hynny.
"Ma' cyfle i edrych yn wahanol ar y cynnig o nawdd yn y cyd-destun yma, cwmnïau bach a mawr, ma' mor syml a hynny."
'Traddodiadol'
Erbyn diwedd yr wythnos mae Mr Davies yn disgwyl i Eisteddfod y Garreg Las godi dros £200,000, sydd dros hanner y targed ariannol.
Un o'r ffyrdd mae'r pwyllgor gwaith yn ceisio cyrraedd y nod ydy gwerthu tocynnau raffl £2 yr un gyda'r enillydd yn derbyn car trydan a gafodd ei roi fel rhodd.
Fe fydd dulliau traddodiadol o godi arian hefyd yn cael eu cynnal, meddai'r cadeirydd.
“Mae’n naturiol, y’ch chi’n cynnal gweithgarwch traddodiadol, yn y cymunedau, achos ma’ hwnna’n rhan o godi ymwybyddiaeth a dod â pobl yn agosach, ffrindie newydd i’r ŵyl, ma’ hwnna’n hollbwysig, ma’ angen neud hynny dro ar ôl dro.
“Erbyn diwedd yr wythnos hon fyddwn ni hanner ffordd yn y nod dwi ddim yn galw fe’n darged, nod yw e, fel ma’ ‘na nod hefyd i gynnal y diwylliant, i hyrwyddo’r iaith, ac i godi ymwybyddiaeth.
“So, y’n ni ar y ffordd ac y’n ni dros hanner ffordd.”