Arestio pump mewn ymchwiliad i fasnachu plant yn ardal Sir Ddinbych
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i adroddiadau o droseddau camfanteisio rhywiol a masnachu plant yn ardal Sir Ddinbych wedi arestio pump o ddynion fore dydd Iau.
Mae'r pump yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Dywed Heddlu'r Gogledd bod y troseddau honedig wedi digwydd yn ardaloedd y Rhyl a Llundain rhwng 2022 a 2024 ac yn ymwneud â thair o ferched.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Richard Sidney: “Mae'r ymchwiliad hwn yn rhan o ymrwymiad Heddlu Gogledd Cymru i ymchwilio i droseddau rhywiol cyfredol a rhai nad ydynt yn ddiweddar yn erbyn plant.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol, ta waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio, i roi gwybod i'r heddlu amdano.
"Byddwch yn dawel eich meddwl y byddwch yn cael eich clywed, eich cymryd o ddifrif a'ch cefnogi gan weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o ddelio â'r mathau hyn o droseddau.
“Mae mynd i'r afael â cham-drin plant a throseddau rhywiol yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif iawn, a dyna pam yr ydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a sefydliadau ac elusennau eraill i gefnogi dioddefwyr, dwyn troseddwyr gerbron y llys a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel.”