Lori yn colli llwyth wedi achosi oedi mawr wrth gyrraedd yr Eisteddfod

Ceir yn cyrraedd y Maes

Lori yn colli ei llwyth a achosodd oedi mawr wrth i yrwyr ddod i mewn i’r Eisteddfod ddydd Mercher, meddai Prif Weithredwr y Brifwyl.

Bu rhai pobl yn disgwyl am awr cyn i’r traffig ddechrau clirio i ddod i’r Maes o tua 10.00 ymlaen ddydd Mercher.

Dywedodd yr Eisteddfod ddydd Mercher eu bod nhw’n “ymwybodol bod damwain wedi digwydd ar un o'r ffyrdd at yr Eisteddfod”.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd gwrthdrawiad wedi bod, ond cadarnhaodd yr Eisteddfod ddydd Iau beth oedd wedi achosi'r tagfeydd.

“Lori yn colli load oedd o, ond roedd o wedi cael ei glirio o fewn yr awr,” meddai’r Prif Weithredwr Betsan Moses. 

“Ond wrth gwrs mi wnaeth o effeithio ar y cyfeiriad yna ac mi’r oedd yna awr o oedi.”

Ychwanegodd: “Mi wnaeth yr heddlu gydweithio ac roedd pobl yn llifo mewn i’r meysydd parcio.

“Mae gyda ni system lle mae modd rheadru felly mae yna dri maes yn weithredol yr un pryd er mwyn hwyluso pobl sy’n dod i’r Eisteddfod.”

Roedd rywfaint yn rhagor o oedi ben bore ddydd Iau gyda rhai pobl yn disgwyl dros hanner awr wrth giwio i’r Maes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.