Cwest yn clywed fod tri wedi marw ym Miwmares ar ôl i gar gyflymu'n anfwriadol

Biwmares

Mae cwest wedi clywed bod dyn 81 oed wedi gwasgu sbardun ei gar yn anfwriadol cyn i'r car gyflymu o 25 mya i 55 mya mewn pum eiliad, gan achosi marwolaeth y gyrrwr a dau arall ym Miwmares.

Roedd Humphrey Pickering o Fae Colwyn wedi gwasgu'r sbardun deirgwaith yn ei Audi A8 yn yr eiliadau tyngedfennol hynny, meddai swyddog ymchwilio'r heddlu i ddamweiniau.
 
Dywedodd Meilir Hywel wrth y cwest yng Nghaernarfon ddydd Iau bod lluniau cylch cyfyng wedi dangos nad oedd y goleuadau brêc wedi goleuo wrth i'r car gyrraedd troead yn y ffordd.
 
Roedd y ficer Stephen Burch, 65 oed o Alcester, Sir Warwick, oedd newydd ymddeol, a'i wraig Katherine, oedd hefyd yn 65 oed, yn cerdded yn y dref ger y Fenai rhwng Ynys Môn a'r tir mawr pan gawsant eu taro gan y car ym mis Awst y llynedd.
 
“Nid oedd gan Mr a Mrs Burch ddigon o amser i ymateb a symud i ddiogelwch. Iddyn nhw, mae'n debyg nad oedd modd osgoi'r gwrthdrawiad,” meddai Mr Hywel.
 
Car wedi ei symud
 
Roedd yr Audi wedi'i barcio ger Gwesty'r Bulkeley yn y dref. 
 
“Digwyddodd y gwrthdrawiad wrth i Mr Pickering symud ei Audi o le parcio i wneud lle i'w wraig fynd i mewn i ochr y teithiwr,” meddai Mr Hywel. 
 
“Yr esboniad mwyaf tebygol am y gwrthdrawiad yw camddefnyddio'r pedalau.”
 
Dangosodd ymchwil fod y gallu i gywiro gwallau o'r fath yn lleihau gydag oedran.
 
Anafiadau
 
Roedd yr Audi wedi gyrru trwy grŵp o gerddwyr a syrthiodd dau ohonynt i'r llawr, gan ddioddef mân anafiadau, mewn digwyddiad a barodd ychydig eiliadau yn unig.
 
Dywedodd y patholegydd Dr Mark Atkinson fod gan y Parchedig Burch a'i wraig nifer o anafiadau.
 
Nid oedd gan Mr Pickering, oedd yn rheolwr gyfarwyddwr wedi ymddeol, wregys diogelwch ar y pryd.
 
Fe wnaeth ddioddef anafiadau i’w frest.
 
Cofnododd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, gasgliadau bod y marwolaethau oherwydd gwrthdrawiad traffig. 
 
Dywedodd fod y cwpl oedd yn cerdded wedi marw yn Stryd Alma, Biwmares, o achos gwrthdrawiad.
 
Roedd Mr Pickering wedi “colli rheolaeth” ar ei gar ac wedi gwrthdaro â thŷ hefyd.
 
'Camddefnydd o bedalau'
 
Dywedodd y crwner: “Yr esboniad mwyaf tebygol yw camddefnyddio’r pedalau sydd wedi arwain at y cyflymiad anfwriadol sydyn. 
 
"Nid oes tystiolaeth ger fy mron bod y digwyddiad yn fwriadol ar ran y gyrrwr.”
 
Ychwanegodd wrth gyfeirio at y teuluoedd: “Dyma un o’r achosion mwyaf trawmatig rwy’n siŵr fy mod i wedi dod ar ei draws yn yr amgylchiadau sydd ger fy mron.   
 
“Nid oes dim y gallaf ei ddweud a fydd yn lleddfu’r boen a’r dioddefaint y byddwch chi i gyd yn sicr o’u teimlo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.