Apêl o'r newydd gan yr heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad ddynes yn ardal Bangor Uchaf

Gwenno Ephraim

Mae swyddogion yr heddlu sydd yn ymchwilio i ddiflaniad dynes yn ardal Bangor Uchaf wedi gwneud apêl o’r newydd am wybodaeth gan berson oedd yn cerdded dros Bont Menai ar noson ei diflaniad.

Cafodd Gwenno Ephraim gael ei gweld ddiwethaf yn ardal Bangor Uchaf ar nos Lun 28 Gorffennaf.

Y gred yw ei bod hi wedi cerdded tuag at Borthaethwy.

Mae swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi adolygu lluniau cylch cyfyng, sydd yn dangos Ms Ephraim yn cerdded ar ei phen ei hun rhwng 22:20 a 23.10 ar y noson.

Mae lluniau camera cylch cyfyng yn dangos merch yn cerdded ar ochr arall y bont ar yr un pryd.

Image
LLuniau
Lluniau o'r cerddwr, sydd wedi eu rhyddhau gan Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod unigolion eraill oedd yn teithio mewn ceir ac ar feic yn ystod yr un cyfnod bellach wedi cysylltu gyda nhw ar ôl apêl yn gynharach yn yr wythnos.

Ond mae swyddogion wedi gwneud apêl unwaith eto i’r ddynes oedd yn cerdded dros y bont, neu i unrhyw un sydd yn ei hadnabod, i gysylltu â nhw.

Dywedodd Brif Arolygydd Stephen Pawson bod yr ymdrech chwilio am Ms Ephraim yn parhau yn ardal Afon Menai, a'u bod yn parhau i gefnogi ei theulu yn ystod “y cyfnod hynod heriol yma.”

“Mae lluniau teledu cylch cyfyng o’r adeg pan oedd Gwenno yn cerdded ar ei phen ei hun, hefyd yn dangos cerddwr benywaidd ar ochr arall y bont," meddai.

“Rydym yn parhau i apelio ar yr unigolyn yma i ddod ymlaen a chynorthwyo gyda’r ymchwiliad.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cynorthwyo gyda’n hymchwiliad hyd yn hyn."

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru, drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio cyfeirnod iTrace 51505.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.