
Dynes o Gaint yn gobeithio codi cerflun o Ceridwen ar lan Llyn Tegid
Mae dynes o Gaint wedi talu i ddod â cherflun 10 troedfedd o Ceridwen i’r Eisteddfod gyda’r gobaith o’i osod yn y pen draw ar lan Llyn Tegid.
Dywedodd Sam Holland ei bod yn gobeithio codi £100,000 er mwyn troi'r cerflun resin sydd ganddi yn un efydd a fydd yn sefyll wrth lan y llyn ger y Bala.
Mae’r cerflun sydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Wrecsam yn sefyll y tu allan i’r Lle Celf ar y Maes yn dangos y wrach o fytholeg Gymreig yn troi’n ôl o fod yn iâr.
Dywedodd Sam Holland ei bod wedi ariannu, creu a chludo y cerflun i'r Maes o’i phoced ei hun ac yn gobeithio dod â Ceridwen i Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn 2026 hefyd.
“Mae Ceridwen yn rhan o fytholeg ardal Llyn Tegid ond ychydig o bobl sy’n gwybod y stori yno,” meddai Sam Holland, sydd â theulu o Ynys Môn ac sy’n rhan o Urdd Derwyddon yr ynys.
“Mae Ceridwen wedi fy ysbrydoli i wneud yn iawn am hynny a sicrhau fod yna gofeb barhaol iddi ar lannau Llyn Tegid. Dwi’n credu y byddai hi’n edrych yn wych i lawr wrth y dŵr fan ‘na."

Dechreuodd ei chariad at Ceridwen wedi iddi greu cerflun o'r morwr Dic Evans ym Moelfre a gafodd ei ddadrochuddio gan y Brenin Charles pan oedd yn dywysog yn 2004.
“Ers hynny rydw i wedi syrthio mewn cariad gyda Chymru a mytholeg Gymreig," meddai.
"Ers hynny rydw i wedi dysgu i siarad Cymraeg a dechrau corff o waith o’r enw Anian sydd am fytholeg Gymreig.”
Dywedodd ei bod hi eisoes wedi treulio pedair blynedd ar y cerflun.
“Rydw i yma i dynnu sylw ati a gweld a fydd pobl yn fodlon helpu,” meddai.
“Rydw i mor falch fy mod i wedi dod â hi yma. Mae’n anrhydedd bod yma o gwbl.
“Dydw i ddim ar frys ond pe bai pawb yn rhoi ychydig bach o arian i mewn efallai wnawn ni gyrraedd rywle.
“Erbyn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf fe fydda i wedi cael cyfle i weithio arni am flwyddyn arall ac fe fydd hi yn y cam nesaf.”