Penderfyniad y Fedal Ddrama wedi ei wneud 'ar frys' meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod

Penderfyniad y Fedal Ddrama wedi ei wneud 'ar frys' meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod

Roedd rhaid gwneud y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama y llynedd "ar frys" cyn yr Eisteddfod meddai Llywydd Llys y Brifwyl.

Ddydd Iau fe fydd cyfnod Ashok Ahir fel Llywydd Llys yr Eisteddfod yn dod i ben ac ar yr un diwrnod bydd enillydd olynydd gwobr y Fedal Ddrama, Medal y Dramodydd, yn cael ei gyhoeddi yn y Pafiliwn.

Wrth roi'r gorau i'w swydd ar ddiwedd ei dymor ddydd Iau dywedodd Ashok Ahir wrth Radio Cymru ei fod yn “hapus” gyda’r ffordd yr oedd wedi ymdrin â sefyllfa'r Fedal Ddrama'r llynedd.

Cafodd cystadleuaeth y Fedal Ddrama ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd gyda chyhoeddiad o'r llwyfan, ond ni chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny, gan arwain at flwyddyn o ddyfalu.

Er bod rhai yn parhau i feirniadu’r Eisteddfod am ddiffyg esboniad, mae Llywydd y Llys yn dweud doedd ‘na dim “lot mwy” y gallen nhw wedi eu gwneud ar y pryd. 

Roedd hynny oherwydd bod y penderfyniad wedi cael ei gwneud “ar frys,” meddai.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore ddydd Iau, dywedodd: “Doedd ‘na ddim ffordd syml i ddelio gydag unrhyw beth sensitif, unrhyw beth anodd sy’n creu sgwrs agored.

“Weithiau mae pobl ddim yn ymwybodol oedd y penderfyniad yn cael ei gwneud eitha’ agos at y Brifwyl so oedd y penderfyniad ar frys.

“I edrych nôl nawr: ydw i’n hapus gyda’r ffordd oeddwn i’n gwneud penderfyniadau? Ydw.

“Achos o’n i’n dal yn defnyddio systemau mewnol ni i fod yn siŵr oedd y Bwrdd [yr Eisteddfod] yn ei gyfanrwydd yn ymwybodol am y penderfyniad.

“O’n ni’n siŵr ‘odd ni’n gweithio gyda beirniad y gystadleuaeth ar y pryd ac oedden nhw yn gytûn gyda’r penderfyniad so does ‘na ddim lot mwy ni’n gallu ‘neud ar y pryd.”

'Medal y Dramodydd'

‘Medal y Dramodydd’ yw prif gystadleuaeth y Brifwyl ddydd Iau, a hynny wedi ei threfnu mewn cydweithrediad â Chonsortiwm o Gwmnïau a Chynhyrchwyr Theatr yng Nghymru. Y cwmnïau hynny sy’n talu am y wobr, sef £3,000 i’r enillydd.

Mae 20 o bobl wedi gwneud cais eleni, sydd yn fwy na’r arfer ar gyfer y Fedal Ddrama.

Mae hynny’n profi nad oedd trafferthion y Fedal Ddrama wedi “tanseilio'r ymrwymiad ma’ gan bobl i drio ennill y Fedal,” medd Mr Ahir.

“Os ti’n mynd nôl naw mis roedd pobl yn gweud bydd neb yn cystadlu. Heddi byddech chi’n gweld yn Fedal y Dramodydd mae 'na 20 o geisiadau.

“I mi mae hwnna’n dangos oce, roedd ‘na sylw at y gystadleuaeth, ond doedd e ddim yn tanseilio'r ymrwymiad ‘ma gan bobl i drio ennill y Fedal.

“A’r un peth wedi digwydd i holl brif gystadlaethau… ni wedi cael pump neu tri neu bedwar sy’n deilwng mewn sawl un o'r prif gystadlaethau."

Dywedodd bod Llys yr Eisteddfod wedi bod yn datblygu canllawiau newydd ar gyfer eu cystadlaethau ers peth amser.

“Mae hwn yn rhywbeth sydd wedi bod ar waith gyda’r pwyllgor diwylliannol a gyda rhai o is-bwyllgorau ni i edrych ar lot o elfennau o gystadlu Eisteddfod," meddai.

“Yr elfen newydd yn y canllawiau yn rhoi sicrwydd arall a chefnogaeth arall i feirniaid.”

Cafodd Ashok Ahir ei ethol i rôl Llywydd y Llys gan aelodau Llys y Brifwyl yn 2019.

Roedd yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.