Tollau masnachu newydd Donald Trump ar dros 90 o wledydd yn dod i rym
Fe fydd tollau masnach newydd gan Arlywydd America Donald Trump ar dros 90 o wledydd yn dod i rym ddydd Iau.
Ymysg y gwledydd sydd yn wynebu'r cynnydd uchaf mewn tariffau gan benderfyniad yr arlywydd mae Brasil - sy'n wynebu tariff o 50% ar ei allforion i’r UDA.
Bydd Tsieina (30%), Canada (35%), Y Swistir (39%) a De Affrica (30%) hefyd yn cael eu heffeithio.
Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu tariffau o 10% ar nwyddau i’r wlad.
Fe fydd y cam diweddaraf, ar ôl iddo ohirio'r newidiadau ddwywaith yn barod - o Ebrill i Orffennaf ac yna o Orffennaf i fis Awst - yn siwr o greu ansicrwydd yn y marchnadoedd ariannol.
Mae Mecsico wedi llwyddo i sicrhau estyniad o 90 diwrnod cyn i dariffau ddod i rym ar ei nwyddau, ond mae Canada'n wynebu cynnydd o 25% i 35%.
Pan gyhoeddodd Trump ei fwriad am y tro cyntaf ym mis Ebrill, fe achosodd gwymp sylweddol i gyfranddaliadau yn y marchnadoedd ariannol, gydag arbennigwyr yn darogan y byddai'r newidiadau'n arwain at gynnydd mewn prisiau nwyddau i gwsmeriaid.
Mae Trump hefyd wedi bygwth tariffau o 50% ar fewnforion India i’r wlad erbyn 27 Awst, os nad yw'r wlad yn dod a threfniant i brynu olew o Rwsia i ben.
Mae llywodraeth Trump yn dweud mai’r rheswm y tu ôl i godi tariffau ar Canada oedd bod y wlad wedi “methu â chydweithio” dros geisio atal cludiant cyffuriau fel Fentanyl dros y ffin.
Mae llywodraeth Canada yn dweud ei fod yn gweithio i rhoi stop ar weithgaredd gangiau cyffuriau.