
Angen 'normaleiddio' termau gwyddonol yn y Gymraeg, medd cyflwynydd S4C
Mae gwyddonydd a chyflwynydd ar S4C wedi dweud ei fod yn hollbwysig i bobl allu astudio doethuriaeth (PhD) yn y Gymraeg er mwyn “normaleiddio” termau gwyddonol yn yr iaith.
Yn ôl Dr Bedwyr ab Ion o Gaerdydd, mae nifer fawr o bobl yn gyfarwydd â thermau gwyddonol yn Saesneg – ond dyw hynny ddim yn wir yn y Gymraeg.
Mae’n dweud bod termau arbenigol o’r fath yn cael eu defnyddio yn fwy aml ym mywyd pob dydd yn sgyrsiau Saesneg.
Fe allai hynny golygu bod trafodaethau yn haws i'w cynnal yn yr iaith honno, meddai Dr ab Ion, sydd yn awyddus i sicrhau bod pobl yn gallu cael dealltwriaeth debyg yn y Gymraeg.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Drwy normaleiddio defnyddio termau sydd yn arbenigol – chi’n cael hwnna ar y radio neu’r teledu yn Saesneg.
“Hynny yw, s’neb callach bron bod e’n derm arbenigol ‘chos bod e’n cael ei ddefnyddio o ddydd i ddydd bellach yn yr iaith.
“Ond wedyn yn Gymraeg mae ‘na dal bach o, ‘Be’ mae hwnna’n feddwl?’ neu ‘Fydd pobl ddim yn deall be mae hwn yn feddwl.’
“Be’ mae’r ddoethuriaeth wedi ‘neud yw datblygu steil neu ddulliau o allu cyfathrebu pynciau arbenigol mewn ffordd fwy hygyrch a chlir i gynulleidfaoedd.”

'Rhannu syniadau'n haws'
Wedi iddo raddio o Brifysgol Rhydychen yn 2019 gyda gradd israddedig yng Nghemeg, fe ddychwelodd Dr ab Ion adref i Gaerdydd er mwyn astudio ei ddoethuriaeth drwy’r Gymraeg.
Cafodd ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, oedd yn ei ganiatáu iddo gyflawni ei waith – sef edrych ar ffyrdd o ddatblygu therapïau i drin clefydau prin – gyda Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd.
Mae’n credu bod e wedi cael mwy o gyfleoedd ers iddo raddio'r llynedd oherwydd ei fod wedi astudio drwy’r Gymraeg.
Mae wedi cyflwyno’r rhaglen wyddonol i blant PwySutPam? ar S4C yn ogystal â chyfrannu i nifer o gynadleddau a gwyliau gwyddoniaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fel rhan o’i waith ymchwil roedd yn hefyd wedi creu termau gwyddonol newydd yn y Gymraeg.
Er nad yw’r termau yna wedi cael eu safoni yn ffurfiol hyd yma, roedd ei benderfyniad i ddefnyddio geirfa newydd wedi ei alluogi iddo drafod ei waith yn y Gymraeg mewn modd oedd yn fwy cywir, meddai.
“Fi yn teimlo drwy gyfathrebu syniadau, a hynny mewn unrhyw iaith ond yn benodol yn Gymraeg, mae syniadau’n gallu cael eu rhannu’n haws.
“Y’n nhw ‘di profi bod pobl yn gallu bod mwy agored ac yn gallu rhannu syniadau neu deimladau neu feddyliau yn haws yn eu mamiaith.”
'Trafod unrhyw beth'
Eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dathlu 20 mlynedd o ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr gallu astudio eu doethuriaethau drwy’r Gymraeg.
Mae tua 10 myfyriwr newydd yn cael nawdd i wneud eu doethuriaeth yn Gymraeg bob blwyddyn ac mae tua 180 wedi bod yn rhan o’r cynllun ers ei sefydlu yn 2005.
Mae'r Gymraeg wedi bod yn ganolog i yrfa'r Athro Enlli Môn Thomas o Abergwyngregyn fel Ymchwilydd Ôl-Ddoethur yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.
Ddydd Llun fe gafodd yr Athro Thomas ei hurddo i’r Wisg Las yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam am ei hymroddiad i’r Gymraeg yn y byd addysg bellach.

Mae wedi bod yn gyfrifol am osod strategaeth y Gymraeg ar lefel reoli'r Brifysgol ac mae’n annog myfyrwyr doethuriaeth i ymgymryd ag ymchwil am addysg Gymraeg.
“Mae’n allweddol bod y meysydd lle mae pobl yn astudio yn feysydd sydd yn teimlo eu bod yn ddigon hyderus i fod yn feysydd sydd yn cael eu trafod yn y Gymraeg," meddai.
“Mae hynny ar gyfer y cyfryngau – os ‘da ni ddim yn teimlo ein bod ni’n gallu trafod materion cyfoes yn Gymraeg yna mae mynd i fod yn anodd iawn darlledu am faterion hynny yn y Gymraeg.
“Felly mae datblygu sgiliau dwyieithog i bobl sy’n astudio pynciau ‘na yn gwbl allweddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn gallu bod yn iaith sydd yn gallu trafod unrhyw beth.”
Bydd sgwrs banel ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod, dydd Iau 7 Awst am 11:30 fydd yn trafod effaith cynllun ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg fydd yn cadeirio’r sgwrs ac fe fydd Dr Bedwyr ab Ion ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan.