Dyn wedi achosi £3,000 o ddifrod i fferyllfa ym Môn
Mae llys wedi clywed bod dyn wedi achosi difrod gwerth £3,000 wedi iddo dorri i mewn i fferyllfa ar Ynys Môn ar ddiwrnod ei ben-blwydd.
Fe wnaeth Gwynfor Jones, 34, sydd yn byw mewn gwesty ym mhentref Bodffordd, gyfaddef iddo ladrata oddi wrth fusnes Central Pharmacy yn Llangefni ar 5 Awst.
Roedd hefyd wedi dwyn cerdyn banc o’r adeilad.
Cafodd ei garcharu am 30 wythnos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.
Fe wnaeth y barnwr dosbarth Gwyn Jones ddisgrifio Jones fel "troseddwr rheolaidd."
Dywedodd wrth y diffynnydd: “Er eich bod yn nodi yr hoffech gael y cyfle i gydweithio’n ymarferol gyda’r tîm prawf a’ch teulu, mae’n amlwg eich bod wedi methu â gwneud hynny yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.”
Dywedodd Hannah Davies, ar ran yr amddiffyniad, mai alcohol oedd gwraidd ei broblemau.
“Mae’n derbyn mai ef yw ei elyn gwaethaf ei hun,” meddai.