Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi polisi newydd ar y defnydd o AI

Efa Gruffudd Jones

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi polisi newydd ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.

Bydd y polisi gan y comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, yn berthnasol ar gyfer sefydliadau sy'n dod o dan Safonau’r Gymraeg.

Yn ôl y comisiynydd, bwriad y polisi ydi sicrhau bod sefydliadau yn parhau i gydymffurfio â'r safonau wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn fwy cyffredin.

Dywedodd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg: "Mae maes deallusrwydd artiffisial yn un sy’n datblygu ar garlam ac yn siwr o newid yn sylfaenol sut y byddwn ni’n cyfathrebu â’n gilydd a’r byd o’n cwmpas, tra ar yr un pryd yn cynnig cyfleoedd i wella'r gwasanaethau gaiff ei ddarparu yng Nghymru.

"Mae Safonau’r Gymraeg yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg ac yn parhau i fod yn iaith fyw yn ein bywydau bob dydd. 

"Mae'n bwysig felly bod unrhyw ddatblygiadau technolegol yn cael eu rheoleiddio mewn ffordd sy'n parhau i adlewyrchu arferion defnyddwyr, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnal a'i hyrwyddo yn y byd digidol."

Image
Osian Llywelyn
Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg

Ychwanegodd fod Comisiynydd y Gymraeg yn "gefnogol i’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial", gan ei fod yn cynnig "cyfleoedd unigryw i wella gwasanaethau". 

Ond mae'n dweud bod yn rhaid defnyddio'r dechnoleg mewn ffordd sy'n "parchu ac yn hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant".

Bydd trafodaeth am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ym maes gwasanaethau Cymraeg yn cael ei chynnal ddydd Iau am 11.30 ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. 

Yno, bydd panel o arbenigwyr a defnyddwyr yn ymuno ag Osian Llywelyn i drafod y maes.

Un o'r rhai fydd yn cyfrannu fydd Osian Jones o'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

"Mae Safon Gwasanaethau Digidol Cymru wedi ei ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru," meddai.

"Mae'n diffinio sut beth yw gwasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru ac mae’n helpu sefydliadau cyhoeddus i ddylunio a darparu gwasanaethau effeithlon a chost-effeithiol sy'n canolbwyntio ar anghenion y defnyddiwr.

"Ein nod ni fel canolfan yw i helpu sefydliadau ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a’u gwneud yn hawdd eu defnyddio. 

"Drwy gydweithio, ein gobaith yw y gallwn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn arweinydd ym maes technoleg, tra hefyd yn cynnal a hyrwyddo ein hiaith a'n diwylliant unigryw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.