'Braint anhygoel': Diwedd cyfnod i 'Ela Cerrigellgwm' fel Arolygydd y Gwisgoedd
'Braint anhygoel': Diwedd cyfnod i 'Ela Cerrigellgwm' fel Arolygydd y Gwisgoedd
A hithau'n rhoi gorau i'w rôl eleni, mae hi wedi bod yn "fraint anhygoel" i Ela Jones, neu 'Ela Cerrigellgwm', i fod yn Arolygydd y Gwisgoedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Ela Cerrigellgwm, sef ei henw gorseddol, wedi bod yn Arolygydd y Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd ers 2012, ond fe fydd yn rhoi'r gorau i'r swydd eleni.
Mae’r gwaith o baratoi y gwisgoedd yn cymryd trwy gydol y flwyddyn, wrth iddyn nhw gael eu golchi, eu cludo a’u defnyddio yn y seremonïau cyhoeddi ac yna ym mhrif seremonïau'r Eisteddfod.
Rhinedd Williams o Sir Benfro fydd yn ei holynu yn y rôl, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las yn Sir Benfro y flwyddyn nesaf.
"Nes i gael fy mhenodi i olynu Siân Aman yn 2011, fues i’n cysgodi yn Wrecsam yn 2011 a wedyn y cyhoeddi yn Ninbych oedd y peth cynta’ nes i ddechra 2012 ‘lly," meddai Ela wrth Newyddion S4C.
"Wedyn ma’ ‘di bod yn gylch, yndi, ond rhaid mi ddeud, gwaith tîm ydi o, fyswn i ddim ‘di medru neud o ar ben fy hun, dwi’n hynod ffodus o’r gŵr a’r teulu a’u cefnogaeth hwy."
Er mai dim ond am wythnos y flwyddyn y mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal, mae'r paratoi yn mynd yn ei flaen drwy gydol y flwyddyn i Arolygydd y Gwisgoedd.
"Ma' rhywun yn gyfrifol am wisgoedd yr Orsedd mewn dau air math o beth, ond ma' 'na lawer iawn mwy o wisgoedd na be' ma' pobl yn ei feddwl," meddai Ela.
"Dydy'r gwaith ddim yn stopio drwy flwyddyn a deud y gwir, unwaith ma' rhywun yn gorffen yn Wrecsam, ma' 'na waith goruchwylio bod y gwisgoedd yn mynd i gael eu golchi.
"Wedyn ma' heina yn dod yn eu holau i Llanybydder, a wedyn cyn gynted â'u bod nhw yn eu holau dechra Medi, 'dan ni'n mynd lawr i Llanybydder ag yn dechrau gwneud trefn arnyn nhw."
Ychwanegodd Ela ei bod hi'n ddiolchgar iawn i'r tîm sydd wedi bod yn gymorth mawr iddi.
"Ond hefyd ma’ gen i dîm arbennig o fy nghwmpas i efo’r gwisgoedd sef Hywel a Marian, Sian, Eleri, Catherine a Lona," meddai.
"Ma’ nhw’n hanfodol er mwyn cael y peth i weithio."
'Cyfnod mor braf yn fy mywyd'
Ychwanegodd Ela ei fod yn fraint iddi fod wedi gwneud y swydd am ddegawd a mwy.
"Ma’ ‘di bod yn fraint anhygoel, ag yn gyfnod mor mor wahanol, ond eto mor braf yn fy mywyd i," meddai.
"Dwi ‘di dod i ‘nabod yr holl bobl ’ma, ‘di cydweithio efo pump Archdderwydd, sydd yn fraint anhygoel, yndi."
Rhinedd Williams fydd yn olynu Ela yn swydd Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd, ond mae hi eisoes wedi bod yn cysgodi Ela yn ei rôl yn y Brifwyl eleni.
"Alla i ddim trosglwyddo popeth i Rhinedd dydd Gwener yma, mi fydd raid i ni gyfarfod eto unwaith o leia’, dwi’n siŵr er mwyn trosglwyddo yn iawn, ‘lly," meddai Ela.
"Ond dwi’n dymuno pob lwc i Rhinedd yn y swydd, mi wneith hi’n werth chweil dwi’n siŵr."