Ffermwraig o'r Swistir deirgwaith dros y terfyn yfed a gyrru yn Llangollen
Mae ffermwraig o'r Swistir wedi ei gwahardd rhag gyrru ym Mhrydain am chwe mis ar ôl iddi gyfaddef bod yn gyfrifol am gerbyd o dan ddylanwad alcohol yn Llangollen.
Clywodd Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher fod Brigitte Holderegger dair gwaith dros y terfyn alcohol cyfreithiol pan ddaeth yr heddlu o hyd i'w char mewn cilfach yn y dref yn Sir Ddinbych gyda'r injan yn rhedeg.
Fe wnaeth y ffermwraig 59 oed, a oedd yn aros yng ngogledd Cymru ar gyfer treialon cŵn defaid, gyfaddef iddi fod yn gyfrifol am gerbyd yn Llangollen o dan ddylanwad alcohol ar 5 Awst.
Cafodd ei gwahardd rhag gyrru yn y DU am chwe mis.
Cafodd hefyd ddirwy o £400 a gorchymyn i dalu £245 o gostau.