Y Gymdeithas Bêl-droed i greu strategaeth newydd i uwchgynghrair menywod Cymru
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn bwriadu cynnal adolygiad "cynhwysfawr" o uwchgynghrair pêl-droed menywod Cymru, yr Adran Premier.
Daw y cam fel rhan o ymrwymiad y Gymdeithas i gêm y menywod, yn dilyn haf hanesyddol lle gwnaeth tîm cenedlaethol menywod Cymru eu ymddangosiad cyntaf mewn twrnamaint rhyngwladol mawr, yn EURO 2025.
Mae'r asiantaeth ymgynghori Portas wedi’i phenodi i arwain y broses adolygu, gyda’r ffocws ar "ddarparu mewnwelediad i safon gyffredinol y gynghrair Adran Premier, ymgysylltu â'r gymuned a'r cefnogwyr, a’r dirwedd fasnachol bresennol y mae’r gynghrair yn rhan ohoni" meddai datganiad CBDC.
Bydd yr adolygiad yn defnyddio cyfuniad o ddulliau ymchwil, gan ddadansoddi data, cyfweliadau â rhanddeiliaid, arolygon ac astudiaethau achos i ddarparu dealltwriaeth fanwl o gyflwr presennol y gynghrair.
'Strategaeth perfformiad'
Bydd y dadansoddiad yn sail i "strategaeth perfformiad uchel sy'n canolbwyntio ar yr athletwr ar gyfer yr Adran Premier, i’w chyflwyno gan CBDC yn ystod gwanwyn 2026."
Dywedodd Bethan Woolley, Arweinydd Strategol Pêl-droed Merched a Genethod CBDC: “Mae'r adolygiad o'r Adran Premier yn dod ar foment allweddol i bêl-droed merched yng Nghymru.
"Er ein bod yn gweld twf ar draws nifer o feysydd o fewn y gêm ferched yng Nghymru, mae'n hanfodol sicrhau datblygiad parhaus y llwybr cyfan. Rydym yn gyffrous i rannu'r weledigaeth o gyhoeddi strategaeth Adran Premier yn 2026, gyda'r nod o gryfhau a dyrchafu'r gêm ddomestig yng Nghymru."
Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig CBDC: “Mae Cynghrair EWRO Merched UEFA wedi bod yn gatalydd unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer datblygiad pêl- droed merched a genethod yng Nghymru. Mae ein buddsoddiad parhaus yn yr Adran Premier i lunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gynghrair yn gonglfaen i etifeddiaeth Cymru yn cystadlu yn y Swistir yr haf hwn.
“Mae’n hanfodol bod pêl-droedwyr talentog yng Nghymru yn gallu gweld llwybr clir a chynaliadwy tuag at yrfa o fewn ein gêm ddomestig trwy’r cam nesaf o dwf y gynghrair.”
Llun: CBDC