Ffrae elusen Harry wedi bod yn 'niweidiol' i'w 'enw da'

Sophie Chandauka a Harry

Mae Dug Sussex ac eraill wedi eu beirniadu gan y Comisiwn Elusennau am adael i "anghydfod damniol" ddigwydd yn llygad y cyhoedd.

Mae'r rheoleiddiwr wedi cyhoeddi casgliadau eu hymchwiliad ar ôl i Harry a sawl ymddiriedolwr eraill adael yr elusen Sentebale yn dilyn ffrae gyda'r cadeirydd, Dr Sophie Chandauka.

Fe wnaeth y corff feirniadu pawb oedd ynghlwm â'r anghydfod gan ddweud bod yr holl ymddiriedolwyr wedi cyfrannu at "gyfleoedd gafodd eu colli" i ddatrys y sefyllfa. Mae'r Comisiwn yn dweud bod y ffraeo cyhoeddus wedi achos niwed i enw da'r elusen.

Fe sefydlodd Harry'r elusen Sentebale yn 2006 gyda’r Tywysog Seeiso o Lesotho.

Bwriad yr elusen yw helpu pobl ifanc a phlant yn Affrica, yn enwedig y rhai sydd yn byw gyda HIV ac Aids.

'Calonnau trwm'

Fe gychwynnodd y cecru ar ôl i ymddiriedolwyr Sentebale geisio cyflwyno strategaeth codi arian newydd yn 2023. Fe achosodd hyn anghydfod rhwng Dr Chandauka, rhai o'r ymddiriedolwyr a'r Dug Sussex. 

Roedd yna eiriau tanllyd ar y ddwy ochr gyda datganiad ar y pryd gan Harry a'r Tywysog Seeiso yn dweud bod y penderfyniad i adael yr elusen wedi ei wneud gyda "chalonnau trwm".

Mewn cyfweliad teledu fe darodd Dr Chandauka yn ôl gan ddweud bod y Dug wedi bod yn ymwneud gyda "chuddio" honiadau o fwlio, aflonyddu a chasineb at ferched.

Ond dyw'r rheoleiddiwr ddim wedi canfod unrhyw dystiolaeth o fwlio nac aflonyddu.

Niweidio enw da

Dywedodd Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennol, David Holdsworth: "Mae angerdd ar gyfer achos penodol yn rhan o hanfod gwirfoddoli ac o fod yn elusen gan effeithio yn bositif ar filiynau o bobl yma adref a dramor bob dydd. 

"Ond mewn rhai achosion pan mae pethau yn mynd o'i le, yn aml mae hynny oherwydd bod yr angerdd hwnnw wedi troi yn wendid yn hytrach na chryfder."

Dywedodd bod problemau Sentebale wedi eu "gwyntyllu yn gyhoeddus, gan alluogi anghydfod damniol i niweidio enw da'r elusen".  

Mae llefarydd ar gyfer Harry wedi beirniadu'r canfyddiadau gan ddweud bod yr adroddiad ddim yn mynd yn "ddigon pell" am na fydd yna "ganlyniadau" ar gyfer y Cadeirydd, Dr Sophie Chandauka.

Mae Dr Chandauka yn parhau yn Gadeirydd yr elusen a dyw'r Comisiwn ddim wedi nodi unrhyw reswm pam na all barhau yn y rôl. 

Wrth ymateb i'r adroddiad mae hi wedi dweud bod yr "ymgyrch yn y wasg" wedi achosi "niwed aruthrol".

"Rydyn ni yn dod allan yr ochr arall nid yn unig yn ddiolchgar ein bod ni wedi goroesi ond yn gryfach: yn fwy eglur, yn llywodraethu yn well, yn feiddgar o uchelgeisiol a dal gyda'n hurddas," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.